Pa Fath o Help sydd Ar Gael?
Fe all Gwasanaethau Cymdeithasol ddarparu amrywiaeth o gymorth i bobl gydag anabledd corfforol a'u gofalwyr. Mae'r help sydd ar gael yn cynnwys:
- Cyfarpar i Wneud Bywyd yn Haws - Mae amrywiaeth o gyfarpar ar gael i'ch helpu yn eich bywyd bob dydd. Gall Therapyddion Galwedigaethol roi cyngor ar ba gyfarpar sy'n addas i chi a sut i gael gafael arno. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd modd ichi fenthyg cyfarpar gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.
- Addasiadau i'ch Cartref - Efallai y gallwn eich cynorthwyo gydag addasiadau syml yn eich cartref. Gall gwaith mwy i gwrdd ag anghenion cymhleth gael ei gynllunio a'i drefnu efo chi a gallwn gynnig cyngor ar ffynonellau cyllid. Mae taflen mwy manwl o'r enw Addasu Eich Cartref i Wella Ansawdd eich Bywyd ar gael. Os ydy'ch cartref presennol yn anaddas, efallai y gallwn roi cymorth ichi wrth chwilio am le mwy addas i fyw.
- Rhaglen tymor byr i’ch helpu i wella - Os ydych wedi colli peth annibyniaeth neu hyder yn dilyn salwch neu ddamwain gallwn fod o gymorth i chi gael mwy o annibyniaeth. Gall y Gwasanaeth Cynnal (Rehabilitation Support Service) asesu eich anghenion ac os yn briodol drefnu rhaglen wella i chi. Gall hynny gynnwys gofalwyr hyfforddedig i weithio gyda chi fel rhan o’ch pecyn gofal.
- Egwyl neu Amser i Ffwrdd o Gartref - Mae amrywiaeth o ofal y byddwn o bosib yn gallu ei gynnig ichi naill ai gartref neu i ffwrdd o gartref, er enghraifft lle mewn cartref preswyl neu gartref nyrsio, fel bod modd i chi neu'r sawl sy'n gofalu amdanoch gael egwyl am ddiwrnod neu fwy.
- Cefnogaeth Gwaith Cymdeithasol - Efallai y gallwn ddarparu cefnogaeth gwaith cymdeithasol i chi a'ch teulu a'ch gofalwyr os ydych, er enghraifft, yn ceisio ymgynefino â'ch anabledd, yn ystyried eich dewisiadau, yn gwneud newidiadau neu'n cael anawsterau yn gyffredinol.
- Cynllun Bathodyn Glas - Mae'r cynllun yma'n darparu trefniant consesiynau parcio cenedlaethol i bobl gydag anawsterau cerdded difrifol, pobl sydd wedi'u cofrestru'n ddall a phobl gydag anableddau difrifol iawn yn eu breichiau.
Os ydych yn yr ysbyty, gofynnwch i staff y ward am gael gweld Gweithiwr Cymdeithasol.
I gael gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn yn Sir Ddinbych cliciwch y ddolen Deial i Deithio ar y chwith.
Gall mudiadau gwirfoddol hefyd cynnig cyngor a gwybodaeth, gweler y rhestr isod ac ar y chwith.
Canolfan Adnoddau Gogledd Cymru i Bobl Anabl
Ysbyty Glan Clwyd
Bodelwyddan
LL18 5UJFfôn: 01745 582632
Yn darparu amrywiaeth o gyfarpar, cegin ailhyfforddiant ar gyfer arddangos ac asesu, a gwasanaeth danfon.
Siop Cyngor Budd-daliadau
19 Bedford Street
Y Rhyl
LL18 1SY
Ffôn: 01745 345145


