Gall colli eich gallu i weld, yn rhannol neu gyfangwbl greu nifer o broblemau i unigolion a’u teuluoedd. Heddiw mae nifer fawr o wasanaethau ar gyfer pobl sydd â nam gweld ac i’w gofalwyr. Mae’r daflen hon yn dangos sut y gall Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych fod o gymorth.
Pa fath o Gymorth sydd ar gael?
Cofrestru
Mae gofyn i’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol gadw cofrestr o bobl sydd â nam gweld. Mae cofrestru yn beth gwirfoddol ond bydd gwneud hynny yn ei gwneud hi’n haws cael unrhyw fudd-daliadau neu wasanaethau fydd eu hangen efallai. Cyn cofrestru rhaid i chi gael tystysgrif eich bod yn ddall neu yn rhannol ddall gan ymgynghorydd opthalmegol fydd yn rhoi gwybod i’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol. Byddwn wedyn yn cael ymweliad gan Weithiwr Cymdeithasol fydd yn eich cynghori pa wasanaethau a budd-daliadau sydd ar gael.
Asesiad
Gall y Gweithiwr Cymdeithasol asesu eich anghenion a chreu darlun o’r hyn rydych ei angen.
Budd-daliadau & Hawliadau Ariannol
Mae nifer o fudd-daliadau ariannol a chonsesiynau y gallwch eu hawlio. Gall y gweithiwr cymdeithasol ddweud wrthych am y rhain neu eich cysylltu hefo rhywun arall all eich helpu.
Cymorth gyda Thasgau Ymarferol, Cyfathrebu a Mynd o Gwmpas yn Ddiogel
Mewn rhai amgylchiadau gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â Swyddog Ailsefydlu fydd yn eich dysgu sut i wella neu gadw eich annibynniaeth. Er enghraifft efallai y cewch anhawster gwneud pethau yn y gegin, defnyddio’r ffôn, edrych ar eich ôl eich hun a mynd o gwmpas yn ddiogel yn eich cartref a thu allan. Mae llawer o offer ar gael i’ch helpu gyda’ch bywyd bob dydd. Gallwn roi cyngor i chi pa offer
sy’n briodol i chi a sut i’w gael.
Gweithgareddau Hamdden a Gwaith
Mae gwybodaeth ar gael am sut y gallwch barhau gyda eich gweithgareddau hamdden. Gallwn eich cysylltu â gwasanaethau eraill a rhoi cyngor i chi ar gael neu gadw eich swydd.
Gwasanaethau i bobl sydd â nam Gweld & Chlywed
Mae anawsterau gweld a chlywed yn gyffredin yn arbennig i bobl mewn oed. Gall gweithwyr cymdeithasol roi cyngor, gwybodaeth a chymorth ymarferol.
Gwasanaeth adfer coll ar y golwg yn asesu anghenion oedlion sydd wedi colli ychydig neu lawer o'u golwg.
Mae hwn yn wasanaeth i bobl dros 18 oed.
I gael mwy o wybodaeth rhiff ffon lilell gymorth amhariad ar y llygaig, Dydd Iau, 2.30 - 4.30 am 01824 706664.


Rhoi adborth ar y tudalen hon