| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Anabledd Dysgu

Anabledd Dysgu

Mae’r wybodaeth yma’n disgrifio’r amrywiaeth o wasanaethau a all gael eu darparu i bobl gydag anabledd dysgu (anfantais feddyliol) a’u teuluoedd yn Sir Ddinbych.  Nôd yr holl asiantaethau a ddisgrifir ydy gweithio â’i gilydd i ddarparu gwasanaethau sy’n cwrdd ag anghenion unigol ac sydd wedi’u seilio ar yr egwyddorion a amlinellir yn  Strategaeth Cymru Gyfan.  Dyma’r egwyddorion hynny :

  • Dylai pobl gydag anabledd dysgu a’u teuluoedd gael help yn ôl eu hanghenion;
  • Mae gan bobl gydag anabledd dysgu a’u teuluoedd yr un gwerth dynol ag unrhyw un arall;
  • Mae gan bobl gydag anabledd dysgu a’u teuluoedd hawl i fyw fel eraill yn eu cymuned;
  • Mae gan bobl gydag anabledd dysgu a’u teuluoedd hawl i gael eu trin fel unigolion.

Y gwasanaethau yw: -

  • Gwasanaeth Byw yn y Gymuned;
  • Nyrsio Cymunedol i Oedolion a Phlant gydag Anabledd Dysgu;
  • Gwasanaethau Iechyd Arbenigol;
  • Fforwm Anableddau Dysgu Sir Ddinbych
  • Grwp Cynllunio Strategol Sir Ddinbych;
  • Gwasanaethau Addysg.

Gwasanaeth Byw yn y Gymuned

Mae’r gwasanaeth yma’n gyfrifol am asesu anghenion oedolion gydag anabledd dysgu a’u teuluoedd.  Mae’r gwasanaeth yn cefnogi pobl wrth iddynt fyw yn eu cartrefi eu hunain yn y gymuned leol.  Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu cefnogaeth deuluol i bobl sy’n byw gartref gyda’u teuluoedd / gofalwyr.    

Mae’r Gwasanaeth Byw yn y Gymuned wedi meithrin llawer o arbenigedd mewn cynorthwyo pobl i fyw yn eu cartrefi eu hunain, mewn cynnig cymorth i gael cartref addas a recriwtio staff i sicrhau bod anghenion cefnogaeth ddyddiol yr unigolyn yn cael eu cwrdd.  Bydd y gwasanaeth yn cynorthwyo’r unigolyn i wneud dewis deallus ynghylch pwy maent am fyw â hwy.

Bydd blaenoriaeth ar gyfer y gwasanaeth yma’n cael ei rhoi fel arfer i bobl gydag anabledd dysgu (anfantais feddyliol) sydd mewn perygl o golli eu lle yn y gymuned o ganlyniad i anableddau dysgu difrifol neu anableddau corfforol ychwanegol neu ymddygiadau heriol difrifol, neu i’r rheini sy’n byw gyda gofalwyr oedrannus.

Nyrsio Cymunedol i Oedolion a Phlant gydag Anabledd Dysgu (Anfantais Feddyliol)

Cyflogir Nyrsys Cymunedol Anabledd Dysgu gan Ymddiriedolaeth (GIG) Conwy a Sir Ddinbych. Mae yna dimau nyrsio sy’n gweithio gyda grwpiau cyn ysgol, grwpiau oedran ysgol a grwpiau oedran oedolion. Mae Nyrsys Anabledd Dysgu’n gweithio mewn partneriaeth agos â Meddygon Teulu, y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg i ddarparu amrywiaeth cynhwysfawr o wasanaethau sy’n cynnwys: cynllunio gofal unigol, galluogi pobl gydag anabledd dysgu i dderbyn gwasanaethau iechyd cyffredinol a darparu cefnogaeth a chyngor iechyd.

Gwasanaethau Iechyd Arbenigol

Fe all pobl gydag anabledd dysgu a’u teuluoedd hefyd dderbyn gwasanaethau gan  weithwyr iechyd proffesiynol eraill sy’n ymwneud ag anabledd dysgu, yn cynnwys seiciatryddion, seicolegwyr, therapyddion galwedigaethol, therapyddion lleferydd a ffisiotherapyddion.  I gynorthwyo teuluoedd a gofalwyr gyda rheoli ymddygiadau anodd (heriol), mae yna wasanaeth cefnogaeth ddwys.


Fforwm Sirol i Bobl gydag Anabledd Dysgu (Anfantais Feddyliol)- Denbighshire Learning Disability Forum

Mae’r Fforwm Sirol yn gorff annibynnol sy’n anelu at alluogi pobl i gyflwyno eu barn ynghylch y gwasanaethau y teimlant y dylent gael eu darparu gan wasanaethau iechyd ac addysg a gwasanaethau cymdeithasol er mwyn cwrdd ag anghenion pobl gydag anabledd dysgu a’u gofalwyr. Mae’r Fforwm wedi’i ffurfio o bobl gydag anabledd dysgu, rhieni a gofalwyr a mudiadau gwirfoddol. Mae amcanion y Fforwm yn cynnwys lobïo, gwybod y diweddaraf am faterion anabledd dysgu a gweithredu fel canolfan wybodaeth, trefnu cyfarfodydd a seminarau ar bynciau perthnasol a chymryd rhan weithredol mewn cynllunio ac ymgynghori â darparwyr gwasanaeth.

Grwp Cynllunio Strategol Sir Ddinbych

Mae Grwp Cynllunio Strategol Sir Ddinbych yn grwp etholedig y mae’i aelodaeth yn cynnwys pobl gydag anabledd dysgu a’u teuluoedd, staff iechyd, addysg a’r gwasanaethau cymdeithasol a chynrychiolwyr o’r sector gwirfoddol. Mae’r grwp yn darparu fforwm pwysig ar gyfer cynllunio ac ymgynghori ar y cyd ynglyn â chyfeiriad a datblygiad gwasanaethau yn y dyfodol. Mae’r grwp yn cynnwys grwp gorchwyl bychan sy’n cwrdd yn fisol o leiaf, a grwp mwy, sy’n rhannu gwybodaeth, sy’n cwrdd bob tri mis.

Gwasanaethau Addysg

Roedd Awdurdod Addysg Lleol Sir Ddinbych yn cytuno â’r themâu allweddol a amlinellwyd yn nogfen y Swyddfa Gymreig Siapio’r Dyfodol gogyfer ag Addysg Arbennig - Rhaglen Weithredu i Gymru.  Mae’r themâu hyn wedi bod yn sail i’r amcanion strategol a ymgorfforwyd yng Nghynllun Strategol Addysg.  Dyma nhw:

  • Cefnogi rhieni a phlant drwy ddarparu gwell cefnogaeth a chyngor i rieni a gofalwyr.
  • Datblygu a gwella’r fframwaith A.A.A. ar gyfer y ddarpariaeth.
  • Hyrwyddo system fwy cynhwysol.
  • Datblygu gwybodaeth a sgiliau’r holl staff.
  • Hyrwyddo partneriaeth a chydweithio â’r holl asiantaethau perthnasol.

Swyddog Arweiniol - Swyddog Addysg AAA / Pen Seicolegydd
Gwasanaethau - Datganiadu, Addysgol, Seicoleg, Tîm Datblygiad Dysgu.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0