| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Camddefnyddio Cyfluriau a/neu Alcohol

Gall camddefnyddio cyffuriau a / neu alcohol greu sawl problem i unigolion, eu teuluoedd a’u gofalwyr a’r gymuned leol. Heddiw mae nifer o wasanaethau i bobl sy’n camddefnyddio cyffuriau a / neu  alcohol. Mae’r daflen hon yn dangos sut all Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych helpu.

Pa fath o gymorth sydd ar gael? 

Asesiad

Gall Gweithiwr Cymdeithasol Cyffuriau ac Alcohol asesu eich anghenion gyda chi a gwneud darlun o’r math o gymorth rydych ei angen.

Cynghori

Rydym yn gweithio gyda mudiadau eraill i roi cyngor a chymorth i unigolion, eu teuluoedd a gofalwyr sy’n cael anawsterau oherwydd camdrin cyffuriau a / neu alcohol.

Triniaeth

Rydym yn gweithio gyda’r Gwasanaethau Iechyd i alluogi unigolion i gael y driniaeth maent ei angen. Gall hyn gynnwys triniaeth gartref neu yn yr ysbyty.

Gwybodaeth, Cymorth a Chyngor

Gall y Gweithiwr Cymdeithasol Cyffuriau ac Alcohol roi gwybodaeth a chyngor ar nifer o faterion i unigolion a’u gofalwyr megis cynlluniau newid nodwyddau, grwpiau cymorth lleol a gwasanaethau cymorth cyffuriau ac alcohol eraill.

Codi Ymwybyddiaeth a Hyfforddiant

Gallwn gynghori mudiadau lleol er enghraifft clybiau ieuenctid ac ysgolion ar godi ymwybyddiaeth. Mewn rhai amgylchiadau gallwn ddarparu’r hyfforddiant.

Ailsefydlu

Yn dilyn rhaglen i ddod yn rhydd o gyffuriau a / neu alcohol, bydd rhai unigolion angen cymorth i adennill sgiliau byw a gollwyd. Mewn rhai amgylchiadau gallwn drefnu cyfnod o ail sefydlu. Mae gan Gwasanaethau Cymdeithasol feini prawf pwy fydd yn cael blaenoriaeth i gael y gwasanaeth hwn. Yn gyffredinol seilir y meini prawf hyn ar nodi blaenoriaethau unigolion yn ôl y lefel o angen a risg a symbyliad i newid. Fe bennir y meini prawf gan ystyried faint o adnoddau sydd ar gael.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â'r Gweithiwr Cymdeithasol Cyffuriau ac Alcohol:

Gweithwr Cymdeithasol Cyffuriau ag Alcohol,
Gwasanaethau Cymuned Cyffuriau ag Alcohol,
7 Ffordd Brighton
Y Rhyl,
Sir Ddinbych,
LL18 3EY


Ffôn: 01745 338868

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0