Oriau gwaith arferol gweithwyr Sir Ddinbych yw 37 awr yr wythnos. Yn dibynnu ar natur eu dyletswyddau, efallai y caiff rhai gweithwyr weithio oriau hyblyg. Mae’r Cyngor wedi cyflwyno trefniadau oriau gwaith hyblyg hael iawn gyda’r bwriad o fod o fantais i’r gweithwyr a’r Cyngor. Mae’n cymryd i ystyriaeth gydbwysedd gwaith/bywyd. Dyma grynodeb byr o’r prif bwyntiau:-
Y lwfans absenoldeb hyblyg yw 2 ddiwrnod ymhob cyfnod 6 wythnos. Fodd bynnag, cyn cymryd absenoldeb hyblyg, rhaid i weithwyr sicrhau bod ganddynt ddigon o oriau mewn credyd. Ni ddylid cymryd absenoldeb hyblyg os nad oes digon o oriau credyd.
Y nifer o oriau credyd a ellir eu cario trosodd o un cyfnod i’r nesaf yw 20 awr.
Nid oes amser craidd penodol: caiff gweithwyr weithio o fewn oriau agor yr adeilad ar gyfer eu gwaith penodol hwy. Nodwch os gwelwch yn dda na ellir newid neu ymestyn oriau agor adeilad i ddiwallu anghenion unigolion. Efallai hefyd y bydd angen i weithwyr adael yr adeilad 15 munud cyn yr amser cau swyddogol. Bydd Rheolwr yr Adeilad yn dosbarthu gwybodaeth am y trefniadau ar gyfer adeiladau unigol.
Bydd gofyn i weithwyr weithio o leiaf 4 ½ awr ar bob diwrnod gwaith arferol. Bydd union drefniadau gwaith yn unol ag anghenion y gwasanaeth a bydd rheolwyr atebol a gweithwyr yn gyfrol am sicrhau bod digon o bobl yn y swyddfa ar unrhyw adeg benodol. Y nifer mwyaf o oriau a ellir eu gweithio mewn un diwrnod yw 12 awr.
Nid oes angen i weithwyr fod yn bresennol ar gyfer y bore a’r prynhawn, cyn belled â’u bod yn gweithio’r oriau lleiaf, bod rhywun yn y swyddfa bob amser, ac nad oes angen iddynt fod yn bresennol yn y bore a’r prynhawn am resymau gwasanaeth.


Rhoi adborth ar y tudalen hon