| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Polisi Adleoli

Wrth ddechrau gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych, efallai y bydd gan swyddog hawl i dderbyn cymorth ariannol penodol os bydd angen iddynt adleoli o’u prif breswylfa ac felly prynu eiddo newydd ac adleoli i’r ardal.
 
Mewn achosion cymwys, bydd y Cyngor yn rhoi lefel resymol o gymorth ariannol i’r Swyddog, na fydd mewn llawer o achosion yn talu holl gostau symud ond bydd yn cyfrannu’n sylweddol tuag at y gost o adleoli. Darperir cymorth hyd at uchafswm o £8000 neu, mewn achosion lle nad oes treth stamp i’w thalu ar yr eiddo, £7000 (ni thelir treth stamp ar eiddo dan £125k neu, mewn rhai wardiau e.e. Dinbych Uchaf a Henllan, hyd at £150k)


Categorïau Ad-dalu a ALL fod yn berthnasol - crynodeb

Gwerthu eiddo presennol - ffioedd
Prynu eiddo newydd – ffioedd a threuliau
Lletya / Lwfans Gwely a brecwast / Rhentu - lwfans tuag at y gost (Bydd Hyfforddeion Graddedig yn gymwys i dderbyn hyd at £2,000 (yn cynnwys dau ymweliad i ganfod llety) ar gyfer y 3 mis cyntaf) 
Costau symud o Gartref Presennol i Gartref Newydd neu i Storfa neu Lety Rhent ac yna ymlaen i gartref newydd.
Lwfans Storio - pan na all y swyddog symud yn barhaol ar unwaith.

Os ydych yn symud i’r ardal, efallai y bydd y wybodaeth ar ein gwefan ar gyfer teuluoedd yn ddefnyddiol.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0