Mae Cyngor Sir Ddinbych yn falch o’i Bolisi Dim Ysmygu, a ddaeth i rym ar 1 Mehefin, 2006.
Mae’r Polisi’n dweud: “Bydd y Cyngor yn darparu amgylchfyd gwaith diogel i holl weithwyr, sy’n rhydd rhag mwg. Ni fydd unrhyw weithiwr yn dioddef ysmygu goddefol yn ystod eu gwaith.
Fel corff cyhoeddus, mae gan y Cyngor ddyletswydd hefyd i hybu delwedd bositif i’r cyhoedd yn gyffredinol ac arwain y ffordd i gyrff eraill.”
Felly, ni chaniateir ysmygu yn unrhyw un o adeiladau’r Cyngor, ac ni chaniateir hynny ‘chwaith wrth fynedfeydd neu ffenestri eiddo’r Cyngor, nac unrhyw le arall yn union y tu allan lle gallai mwg effeithio gweithwyr eraill. Yn ychwanegol at hyn, ni chaniateir ysmygu mewn unrhyw gerbyd gyda logo’r Cyngor Sir neu mewn unrhyw gerbyd sy’n cludo gweithwyr a/neu gleientiaid tra ar fusnes y Cyngor.


Rhoi adborth ar y tudalen hon