| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Hyfforddiant a Datblygu

Rydym yn cymryd hyfforddiant a datblygu gyrfa o ddifrif. Byddwn, mewn llawer o achosion, yn caniatáu amser i fwrdd gyda thâl i alluogi i weithwyr ar bob lefel ddilyn rhaglenni datblygu gyrfa neu astudio ar gyfer cymwysterau proffesiynol neu gymwysterau eraill.

Mae’n bolisi cyffredinol yng Nghyngor Sir Ddinbych i ddatblygu pob un o’i weithwyr, gyda chydraddoldeb cyfle llwyr, i ddiwallu eu hanghenion unigol ac anghenion corfforaethol yr awdurdod. I wneud hyn mae gan y Cyngor system gwerthuso perfformiad sy’n annog gweithwyr i ddatblygu yn eu rôl. Mae’n rhoi adborth ar berfformiad ac yn canolbwyntio ar reoli, cefnogi a datblygu staff i’w potensial llawn. Bydd hyn, yn ei dro, yn cefnogi gwerthoedd y Cyngor, sef Balchder, Undod, Gonestrwydd a Pharch. 

Mae gan y Cyngor, pob cyfarwyddiaeth ac adran, gynllun perfformiad sy’n nodi’r amcanion a’r targedau. I gefnogi’r cynllun hwn, bydd pob adran yn datblygu cynllun dysgu a datblygiad blynyddol sy’n pennu anghenion dysgu a datblygu ei gweithwyr ac sy’n cyfrannu tuag at greu’r rhaglen gorfforaethol o ddysgu a datblygu.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0