Awgrymiadau i’ch helpu chi i lwyddo yn eich cyfweliad
Yn ôl gwaith ymchwil, 60 eiliad cyntaf cyfweliad yw’r rhai pwysicaf. Mae’r ffordd rydych yn symud, beth rydych yn ei wisgo ac iaith eich corff oll yn cael eu barnu. Gwnewch i’r argraff gyntaf honno gyfrif.
· Peidiwch â chyrraedd yn hwyr
· Sicrhewch eich bod wedi gwisgo’n briodol
· Diffoddwch eich ffôn symudol cyn mynd i mewn i’r cyfweliad
· Dylech fod yn gadarn a chyfeillgar wrth ysgwyd llaw
· Sicrhewch fod gennych gysylltiad llygad da gyda’ch cyfwelwyr
· Gwenwch – bydd yn helpu i chi ymlacio
· Sicrhewch eich bod yn sefyll/eistedd yn gywir – peidiwch â gwargrymu
· Ceisiwch ymddangos yn hyderus, ond ddim yn falch
· Sicrhewch eich bod yn gwybod gofynion y swydd rydych yn cael eich cyfweld ar ei chyfer
· Peidiwch byth â bod yn anfoesgar am eich cyflogwyr presennol neu flaenorol
· Paratowch ar gyfer y cyfweliad – dysgwch am y corff a’r adran lle mae’r swydd i’w chael
· Rhagwelwch gwestiynau cyffredinol a ellid eu gofyn a pharatoi ar eu cyfer
· Paratowch gwestiynau deallus i’w gofyn i’r cyfwelwyr


Rhoi adborth ar y tudalen hon