| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Hel Achau
Grwp teuluol

Y ffordd hawddaf i ddechrau ymchwilio i hanes eich teulu yw dechrau gyda’r rhai yr ydych yn eu hadnabod. Os yn bosib, siaradwch gyda pherthnasau hŷn a chasglwch gymaint o wybodaeth ag sy’n bosib, yn enwedig: 

  • enwau a chyfeiriadau hynafiaid
  • dyddiadau genedigaethau, priodasau a marwolaethau’r teulu. 

Ac unrhyw fanylion eraill am eu bywydau, fel eu gwaith a’r ysgolion yr oeddynt yn eu mynychu.                                                                                                                               

Wedi casglu’r holl wybodaeth a allwch chi gan berthnasau, gallwch ddechrau cloddio’n ddwfn, gan ddefnyddio: cofnodion a gedwir yn yr archifau, y gwasanaeth llyfrgell ac adnoddau ar-lein.

Archifdy Sir Ddinbych

Dyma restr o’r math o gofnodion, gedwir yn Archifdy Sir Ddinbych, sy’n cael eu defnyddio amlaf ar gyfer hanes teulu:                 

  • Cofnodion cyfrifiad
  • Cofrestrau eglwysi plwyf
  • Cofrestrau Anghydffurfwyr/capel
  • Cofrestriad sifil
  • Papurau Newydd
  • Cofnodion ewyllys a phrofiant
  • Cyfeirlyfrau masnach                                    
  • Cofrestrau Etholiadol/rhestrau pleidleiswyr

Dilynwch y cysylltiadau ar y dudalen hon i ddarganfod mwy am bob un o’r ffynonellau hyn ac i weld pa rai sydd ar gael yn yr Archifdy.             
                                                                                                                                                       
Mae llawer o gofnodion eraill a gedwir yn Archifdy Sir Ddinbych yn cynnwys gwybodaeth werthfawr ar gyfer ymchwilydd hanes teulu; cofnodion sy’n dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg i’r ugeinfed ganrif.  Mae’r enghreifftiau yn cynnwys: cofnodion ysgolion (yn cynnwys cofrestrau derbyn), cofnodion degwm, treth tir, asesiadau, llyfrau rhent, cofnodion trwyddedu a llys, gweithredoedd eiddo, llyfrau cyflogau, cofnodion landlordiaid, hen ffotograffau a mapiau.  Bydd staff yr Archifdy yn hapus i’ch cynghori chi ar ymchwil hanes eich teulu ac y mae yna fynegai o enwau personol i’r cofnodion a gedwir, y gellir eu hymchwilio ar-lein (dilynwch y linc o’r dudalen gartref).                      

Gwasanaeth y Llyfrgell

Gall llyfrau hanes a gedwir gan Wasanaeth Llyfrgell Sir Ddinbych helpu’r hanesydd teulu i ddeall yn well sut yr oedd hi i fyw fel y gwnaeth ei hynafiaid, gan fod llawer wedi cael ei ysgrifennu am fannau lleol a bywyd dyddiol yn y gorffennol, am swyddi, diet, iechyd y cyhoedd, addysg, trafnidiaeth a llawer mwy.  Dilynwch y linc i’r catalog ar-lein i chwilio’r llyfrau sydd ar gael o lyfrgelloedd Sir Ddinbych

                                                                                                                                

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Polisi Cwci | Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | ©2013 Cyngor Sir Dinbych