Arolwg yw Cyfrifiad sydd yn cael ei gymeryd gan y llywodraeth bob deng mlynedd i gasglu gwybodaeth ar boblogath y Deyrnas Unedig. Dechreuodd y cyfrifiad yn 1801 er nad yw cofnodion manwl yn goroesi yn gyffredinol cyn 1841. Mae cofnodion cyfrifiad yn cofnodi enwau pawb ym mhob cartref, eu hoedran, galwedigaethau a’u mannau geni.
Mae cofnodion y Cyfrifiad ar gael yn Archifdy Sir Ddinbych.
Mae dofennau gwreiddiol datganiadau’r Cyfrifiad yn cael eu cadw yn yr Archifdy Cenedlaethol, Llundain a dim ond ar ôl 100 mlynedd y maent ar gael. Mae Archifdy Sir Ddinbych yn cadw copïau microffilm o gofnodion cyfrifiad, yn nhrefn y wyddor fesul plwyf neu dref. Nid yn unig cofnodion cyfrifiad plwyfi Sir Ddinbych a Sir y Fflint sydd yn yr Archifdy ond ceir hefyd rai plwyfi o’r siroedd cyfagos, Sir Feirionnydd, Sir Gaernarfon, Sir Gaer, Swydd Amwythig a Sir Drefaldwyn. Cedwir cofnodion yn ôl trefn y ffiniau cyn 1974. I weld mynegai’r plwyfi ar gyfer y cyfrifiadau sydd ar gael yn Archifdy Sir Ddinbych, cliciwch ar y llythyren berthnasol o’r wyddor ar gyfer y plwyf rydych â diddordeb ynddo.
Gan fod yr holl gofnodion i’r cyfrifiad sydd yn yr Archifdy wedi’u cadw ar ficroffilm, byddai’n syniad da archebu lle darllenydd microffilm cyn eich ymweliad. Gallwch wneud chwiliadau o gofnodion cyfrifiad ar lein hefyd. Fel rheol codir tâl am gael mynd at yr wybodaeth ar lein ond mae ymwelwyr ag Archifdy Rhuthun yn gallu lawr lwytho gwybodaeth ynghylch y cyfrifiad a gwybodaeth arall o wefan Ancestry.com am ddim.


Rhoi adborth ar y tudalen hon