Mae'r rhan fwyaf o deuluoedd yn cael problemau o bryd i'w gilydd. Weithiau gall yr anawsterau hyn fod yn llethol a bydd rhieni angen yr holl gefnogaeth sydd ar gael. Byddwn yn helpu teuluoedd gyda 'phlant mewn angen' yn unol â Deddf Plant 1989. Plant mewn angen yw'r sawl y gall eu lles a'u hiechyd ddioddef heb gefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ystyrir hefyd bod plant anabl yn blant mewn angen.
Rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn darparu'r help gorau posibl ac rydym yn cynnig ystod o wasanaethau i helpu gyda phroblemau gwahanol.
Mae amserau pan fydd teuluoedd yn teimlo dan bwysau mawr ac ni fedrent ymdopi. Efallai bod llawer o resymau dros hyn. Os nad yw eich teulu'n ymdopi'n dda, byddwn yn ceisio dysgu mwy am anghenion eich teulu. Mae'n bwysig darparu'r gefnogaeth fwyaf addas. Byddwn yn gwneud hyn trwy asesu'r sefyllfa'n ofalus er mwyn, gyda'n gilydd, penderfynu pa help a ellir ei gynnig.
Os ydych yn teimlo bod angen help arnoch gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, cysylltwch â ni. Byddwn yn canfod pa help sydd ei angen arnoch â'ch cyfeirio at y bobl briodol. Gall cymorth yn gynnar yn y broses rwystro problemau rhag gwaethygu.
Medrwn roddi cyngor a chefnogaeth, ac efallai hefyd y medrwn awgrymu cyrff eraill a fedr eich helpu.
Weithiau medrwn helpu sortio problem ar unwaith. Ar adegau eraill bydd yn cymryd yn hirach. Os yw hyn yn digwydd, byddwn yn penodi gweithiwr cymdeithasol i'ch helpu.
I gael mwy o wybodaeth am ein gwasanaethau neu os hoffech gael cymorth gan y Gwansanaeth Plant a Theuluoedd cliciwch yma
Rhoi adborth ar y tudalen hon