Gwasanaethau i Blant na Fedrent Fyw yn eu Cartrefi (Plant a Ofelir Amdanynt)
Mae amgylchiadau pan fo gan yr Awdurdod Lleol ddyletswydd i ddarparu llety ar gyfer:
- Plant mewn angen y mae eu rhieni wedi eu rhwystro rhag gofalu amdanynt;
- Plant sy'n destun Gorchymyn Llys;
- Plant ifanc dros 16 oed y mae eu lles yn debygol o gael ei niweidio'r ddifrifol os na ddarperir llety o'r fath
Ystyrir bod plant a phobl ifanc o'r fath yn rhai 'a ofelir amdanynt' dan y gyfraith.
Gellir gofalu am blant am amrywiol resymau ac am gyfnodau gwahanol. Rydym bob amser yn ceisio cadw plant gyda'u teuluoedd yn eu cartrefi eu hunain ond weithiau nid yw hyn yn bosibl. Ar gyfer mwyafrif y plant a 'ofelir amdanynt' gan yr awdurdod lleol, bydd cyfrifoldeb y rhieni yn aros gyda'r rhieni/gwarcheidwaid. Ar adegau eraill, caiff ei rannu gyda'r awdurdod lleol a fydd wedyn â dyletswyddau pwysig fel rhiant corfforaethol. Bydd achosion lle na fedrwn ddod i gytundeb gyda'r rhieni a bydd yn rhaid i ni ddarparu gofal yn erbyn dymuniad y rhieni os mai dyma'r peth gorau i'r plentyn. O na fedr plentyn aros gyda'i deulu, byddwn yn ceisio dod i gytundeb gyda'r rhieni o ran sut dylid gofalu am y plentyn.


Rhoi adborth ar y tudalen hon