| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Tîm Plant a Ofelir Amdanynt a Gadael Gofal

Tîm Plant a Ofelir Amdanynt a Gadael Gofal

Mae gan y tîm cyfun hwn gyfrifoldeb deuol. Yn gyntaf, mae'n cymryd drosodd gan y Tîm Derbyn ac Asesu yn y gogledd wrth ddarparu gwasanaeth gwaith cymdeithasol i holl blant sydd angen aros mewn gofal ar ôl ail arolwg. Mae'r gwaith yn cynnwys ymgymryd ag asesiadau o blant a ofelir amdanynt a sicrhau bod Cynlluniau Gofal, Dogfennau Arolygu a dogfennau eraill yn cael eu cwblhau. Mae'r tîm yn gyfrifol am yr holl blant sy'n destun Gorchymyn Gofal Interim a Gorchymyn Gofal, ac yn chwarae rôl allweddol ym mhob cam o achos llys. Mae'r tîm hefyd yn gyfrifol am weithredu Cynlluniau Amddiffyn Plant ar gyfer plant y mae eu henwau ar y Gofrestr Amddiffyn Plant.

Yn ail, mae'r tîm hwn yn darparu gwasanaethau pwysig i bobl ifanc a ofelir amdanynt, sydd angen cefnogaeth wrth adael gofal. Mae'n cynnwys ymgymryd ag asesiadau gwaith cymdeithasol, paratoi cynlluniau llwybr, darparu'r sgiliau y mae pobl ifanc eu hangen wrth adael gofal, adnabod llety addas a sicrhau bod y person ifanc yn cael cefnogaeth ariannol ac yn medru symud allan o'r lleoliad gofal ac i fywyd annibynnol.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0