| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Manylion Cysylltu'r Gwasanaeth
Cyfeiriad:
Canolfan Addysg
Lon Ganol
Dinbych
LL16 3UW
Teleffon:
01824 712023
Ffacs:
01824 712028
Cefnogaeth Ychwanegol i Blant a Phobl Ifanc
Cefnogaeth Ychwanegol i Blant a Phobl Ifanc

CROESO I DUDALEN GARTREF CYNHWYSIANT A CHEFNOGI DISGYBLION 


 Cynhwysiant a Chefnogi Disgyblion yw’r gwasanaeth sy’n gyfrifol am gydlynu cymorth a chefnogaeth i blant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Sir Ddinbych.

Beth yw “Anghenion Dysgu Ychwanegol”?

Mae’r term ‘Anghenion Dysgu Ychwanegol’ yn berthnasol i blant a phobl ifanc y mae ganddynt anghenion dysgu sy’n ychwanegol i rai mwyafrif eu cyfoedion. Mae plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cynnwys y rhai:

  • sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • sy’n anabl;
  • sydd ag anghenion meddygol;
  • sydd ag anawsterau emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiad, yn cynnwys y rhai â ffobia ysgol a’r rhai sy’n gwrthod mynd i’r ysgol;
  • sy’n fwy galluog a dawnus, ac
  • sy’n dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol. 

Os ydych chi’n pryderu am ddatblygiad a chynnydd eich plentyn, dylech siarad yn uniongyrchol â’r ysgol. Bydd gan yr ysgol bolisi ynghylch adnabod a chynnig cymorth i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, a chewch ofyn am weld y polisi hwn.


 

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0