| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Gweledigaeth i Sir Ddinbych 2025
Logo Dyfodol

Gweledigaeth i Sir Ddinbych 2025

Sir Ddinbych yn 2025 fydd yr ardal ddelfrydol ar gyfer byw, ymweld, gweithio, cynnal busnes a mwynhau ystod eang o weithgareddau ynddi.

Bydd y boblogaeth yn fwy cytbwys, gan gadw a denu rhagor o bobl ifanc a fydd, gyda chymorth, sgiliau a phrofiad ein poblogaeth hŷn, yn cynnal ein cymunedau ac yn hybu ein economi. I ddiwallu anghenion twf yn y boblogaeth bydd angen tai ychwanegol yn y sir. Darperir mwyafrif y tai ychwanegol hyn drwy gyfrwng datblygiadau cymysg, yn cynnwys busnesau, tai ac isadeiledd, mewn ardaloedd sy’n agos at y prif lwybrau trafnidiaeth a chludiant. Yn ychwanegol, bydd rhagor o gartrefi yn y cymunedau gwledig, i gynnal cyfleusterau fel ysgolion a siopau. Bydd y tai newydd yn diwallu anghenion ein poblogaeth amrywiol, gyda darpariaeth briodol unedau fforddiadwy i’w prynu neu eu rhentu. 

  • Gwnawn wella hygyrchedd drwy ddatblygu cysylltiadau cludiant gwell ar gyfer teithiau yn Sir Ddinbych, rhwng yr ardaloedd gwledig a’r prif drefi a rhwng Sir Ddinbych ag ardaloedd eraill.
  • Byddwn wedi meithrin rhagor o fusnesau ansawdd uchel yn Sir Ddinbych, yn enwedig ym maes optoelectroneg, a thrwy gynorthwyo datblygiad busnesau bach a chanolig. Darperir cymorth i gynyddu sgiliau ymchwil, gwyddoniaeth a thechnoleg, gan gydnabod pwysigrwydd yr economi wybodaeth i gynyddu cystadleurwydd.
  • Bydd rhagor o bobl yn gweithio ac yn meddu ar y sgiliau galwedigaethol a sgiliau bywyd sy’n ofynnol i fodloni anghenion cyflogwyr, a’r hyder a’r gefnogaeth i ddechrau eu busnesau eu hunain. Ceir rhwydwaith o ganolfannau lloeren dysgu galwedigaethol yng ngogledd a de’r sir a rhwydwaith integredig o ganolfannau lleol yn darparu cyfleoedd dysgu gydol oes drwy’r sir.
  • Gwnawn fuddsoddi yn ein hysgolion er mwyn cynnal safonau uchel o gyrhaeddiad addysgol i ddiwallu anghenion disgyblion, y gymuned ehangach a’r economi.
  • Bydd ein sir amrywiol yn denu mwy o ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn, a fydd yn mwynhau amgylchedd naturiol ac adeiledig eithriadol Sir Ddinbych, ei diwylliant ac ystod eang o weithgareddau awyr agored.
  • Deuwn â gwasanaethau yn agosach at gymunedau gyda rhai canolfannau wedi eu dynodi fel mannau lle gellir cael amrediad o wasanaethau, fel gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, cyfleusterau ieuenctid, addysg a phlismona cymdogaeth o un man. Bydd y canolfannau hyn wedi eu cysylltu drwy gyfrwng y dechnoleg ddiweddaraf. Datblygir ein dull o ymdrin â diogelwch cymunedol gan asiantaethau fel y Cyngor Sir a’r Heddlu yn cydweithio’n agos â’i gilydd.
  • Bydd pobl ledled y sir yn cymryd mwy o gyfrifoldeb am eu iechyd a’u lles eu hunain. Byddant yn ymwybodol o fanteision ymarfer corfforol rheolaidd a bwyta’n iach. Bydd rhagor o oedolion a phobl ifanc yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
  • Gwnawn ddathlu a pharchu amrywiaeth ein sir. Byddwn yn sicrhau nad yw unrhyw weithredoedd i warchod ein hamgylchedd yn cael effaith negyddol ar fywydau cenedlaethau’r dyfodol.

Y weledigaeth ar gyfer ein cymunedau gwledig a’n prif drefi yw:

Bydd ein cymunedau gwledig yn weithgar yn economaidd, cymdeithasol a diwylliannol tra’n cynnal yr amgylchedd hanesyddol a naturiol godidog. Bydd tai fforddiadwy, cyflogaeth a gwasanaethau ar gael i bobl o bob rhan o’n cymunedau gwledig. Bydd rhagor o dai yn cynnal cyfleusterau cymunedol fel ysgolion a siopau. Bydd strwythurau cludiant lleol yn gwella’r cysylltiadau rhwng cymunedau tra bydd cymeriad a diwylliant gwledig unigryw ein pentrefi bychain yn cael ei ddiogelu a’i ddathlu. Bydd gweithgarwch economaidd yn cynnal harddwch naturiol yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac ardaloedd gwledig. Bydd y sector bwyd-amaeth, twristiaeth a thechnoleg cyfathrebu yn caniatáu rhagor o arallgyfeirio yn yr ardaloedd gwledig.

Bydd adfywio’r Rhyl drwy ailddatblygu’r chwarter morwrol i safon uchel yn gwneud ardal y glannau yn gyrchfan gyffrous a phleserus i ymwelwyr. Hefyd bydd sector adwerthu brysur yno. Bydd newid yn y math ac ansawdd y cartrefi a gynigir yn y dref wedi cynorthwyo i adfywio’r economi.

Bydd economi Prestatyn yn cael ei atgyfnerthu drwy adfywio canol y dref. Bydd safle unigryw y dref rhwng y môr a’r bryniau ar un pen i Lwybr Clawdd Offa wedi ei ddefnyddio i’w wneud yn lle rhagorol i fyw, ymweld ac ymlacio, gydag adnoddau cymunedol poblogaidd fel y Scala yn cael eu defnyddio yn helaeth.

Yn Llanelwy bydd rhagor o ddatblygu’r parc busnes ansawdd uchel sy’n addas ar gyfer busnesau ychwanegu gwerth fel y clwstwr optoelectroneg. Bydd cyswllt gogledd-de yn galluogi adfywio canol y dref.

Yn doreithiog o dreftadaeth a diwylliant gyda chymuned fywiog a llewyrchus, bydd tref ganoloesol Dinbych wedi ei hadfywio drwy gyfrwng ailddatblygu ar safle hen Ysbyty Gogledd Cymru ac o amgylch yr hen orsaf, a fydd wedi diwallu’r angen am ragor o dir ar gyfer tai a chyflogaeth.

Bydd safle Rhuthun fel tref farchnad hanesyddol, hyfyw, wedi ei sicrhau gan ddatblygiad Glasdir, presenoldeb Neuadd y Sir Cyngor Sir Ddinbych, presenoldeb prif adwerthwr yn Lôn Parcwr a datblygiad y Ganolfan Grefftau fel canolfan o bwysigrwydd cenedlaethol.

Bydd Llangollen yn denu hyd yn oed rhagor o ymwelwyr o bell ac agos drwy gydol y flwyddyn. Bydd safle’r Pafiliwn wedi ei drawsnewid yn llwyr a fydd yn sicrhau dyfodol yr Eisteddfod Gydwladol ac yn ei wneud yn un o’r prif leoliadau ar gyfer perfformiadau cenedlaethol a rhyngwladol o bwys drwy’r flwyddyn.

Corwen fydd y brif ganolfan gyflogaeth yn ne orllewin Sir Ddinbych, gan ddarparu safleoedd i fusnesau sy’n masnachu mewn sectorau arbenigol, a bydd rhagor o gyswllt ag ymwelwyr o orsaf orllewinol y rheilffordd stêm.

Bydd Sir Ddinbych yn sir ddelfrydol i fyw ynddi oherwydd:

  • Bydd pawb, p’un ai ydynt yn prynu neu’n rhentu, yn gallu cael cartref fforddiadwy o ansawdd uchel, sy’n defnyddio ynni’n fwy effeithlon ac wedi’i ddylunio i ddiwallu eu hanghenion.
  • Byddwn yn defnyddio technoleg newydd ac yn darparu gwasanaethau fydd yn galluogi pobl aros yn hirach yn eu cartrefi eu hunain a chael tai mwy addas i bobl anabl.
  • Bydd gennym strydoedd a gwagleoedd agored glân gan fod gan y sir bolisi gorfodaeth cryf.
  • Bydd lefelau troseddu yn parhau i ostwng a bydd plismona cymdogaethol yn golygu ein bod yn teimlo’n fwy diogel yn ein cartrefi ac wrth fynd o gwmpas.
  • Bydd llawer mwy o chwaraeon a gweithgareddau i bob grŵp oedran i’n cynorthwyo i gadw’n fwy ffit ac iach.
  • Gellir cael gafael ar bob math o wasanaethau cyhoeddus o un man, wedi eu lleoli’n fwy lleol.
  • Byddwn yn ailgylchu’r rhan fwyaf o’n sbwriel/gwastraff, ac yn arbed ynni.
  • Bydd partneriaid yn gweithio gyda’i gilydd i gael gwared o amddifadedd ac rydym yn sir lle mae pobl yn helpu eu hunain a’u cymunedau.
  • Diogelir plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed.
  • Byddwn yn parchu ac yn diogelu ein amgylchedd naturiol.
  • Bydd ein trefi yn darparu siopau lleol o’r radd flaenaf a chyfleusterau bywiog gyda’r nos.
  • Bod gennym ysgolion rhagorol sy’n sicrhau safonau cyrhaeddiad addysgol uchel.

Bydd Sir Ddinbych yn sir ddelfrydol i weithio a buddsoddi ynddi oherwydd:

  • Ein bod yn sir fodern sy’n annog, cynorthwyo a chefnogi busnesau newydd.
  • Ein bod yn helpu i gynyddu cystadleurwydd y cwmnïau sy’n bodoli eisoes.
  • Bod gennym gyflenwad o adeiladau/safleoedd busnes o’r radd flaenaf mewn nifer o brif leoliadau.
  • Bod gennym lafurlu hyblyg a manteisiwn ar gyfleoedd i weithio/dysgu o gartref.
  • Ein bod yn darparu cyfleoedd prentisiaeth a swyddi ansawdd uchel i bobl ifanc a graddedigion.
  • Bod ein busnesau yn amrywiol ac anogir busnesau bach a chanolig i ffynnu a thyfu. Byddwn yn arbenigo yn y diwydiant optoelectroneg.
  • Bod gan ein gweithlu y sgiliau sy’n diwallu anghenion amrywiaeth o fusnesau, yn enwedig iechyd a gofal cymdeithasol, twristiaeth, technegol, gwyddoniaeth ac ymchwil.

Bydd Sir Ddinbych yn sir ddelfrydol i ymweld â hi oherwydd:

  • Bydd ein trefi a’n pentrefi yn edrych ac yn ‘teimlo’ yn wahanol i ardaloedd eraill.
  • Bod gennym olygfeydd godidog, a chestyll, diwylliant ac arfordir gwych.
  • Bod gennym Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa.
  • Byddwn wedi datblygu marchnadoedd twristiaeth newydd.
  • Bydd gennym westai a meysydd carafanau o’r ansawdd uchaf, a bod enw da i’n bwytai rhagorol sy’n gweini cynnyrch lleol.
  • Byddwn yn cynnig set o atyniadau a gweithgareddau o’r radd flaenaf drwy gydol y flwyddyn.
  • Bod gennym gysylltiadau gwych o ran cerbydau, trenau, bysiau ac awyrennau sy’n ei gwneud yn haws ymweld â Sir Ddinbych.
  • Bydd naws a chyfleusterau trefi a phentrefi yn adlewyrchu eu treftadaeth a’u cymeriad unigryw sy’n eu gwneud yn hynod ddeniadol.
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0