Mae yn wythdeg metr o ran diameter, ac mae yn lleoliad ffantastig i gynnal cyngherddau haf, hefo lle i 8,000 o bobl. Y cyngherddau a gynhaliwyd yno yn y gorffennol yw:- Radio One Roadsow, BBC Blue Peter Roadshow, CBBC Roadshow, Channel Four Big Breakfast a BBC Radio Wales 'Big Buzz'. Bydd trefnwyr yn dychwelyd yno dro ar ôl tro, mae cyfleusterau ardderchog yno a rhoddir cefnogaeth i'r lle gan dim ymroddedig o swyddogion Cyngor Sir Ddinbych.
Lleolir yr arena tua 300m o ganol tref y Rhyl ac o fewn 200 metr o faes parcio tanddaearol, sydd a lle i tua 500 o gerbydau. Mae llefydd parcio ychwanegol ar hyd glan y môr.
I gael mwy o wybodaeth am Arena'r Rhyl neu weithgareddau hamdden eraill ffoniwch:
Swyddog Gweithgareddau Hamdden ar 01745 332414
I gael gwybodaeth am Sioe Awyr Haf gyntaf Cyngor Sir Ddinbych cliciwch yma.

