Gwasanaethau i bobl sy’n fyddar neu sy’n cael anha
Maes dros 13,000 o bobl yn Sir Ddinbych yn fyddar i ryw raddau. Mae bod yn fyddar yn golygu pob math o golled clyw. Mae effeithiau bod yn fyddar a’r gwasanethau sydd eu hangen yn amrywio llawer yn dibynnu ar yr acos, gradd y problem ac oed y dechreuodd y cyflwr. Fodd bynnag maent i gyd yn rhannu un broblem - sef cyfathrebu.
Pa fath o gymorth sydd ar gael?
Offer i wneud bywyd yn haws
Gellir asesu pobl sydd a nam ar eu clyw yn eu cartrefi eu hunain er mwyn cael offer arbenigol megis amplifiers teledu, dolen glyw, cloch ddrws weledol, teleffon testun, larwm babanod etc.
Cymorth Gwaith Cymdeithasol
Mae Cymorth Gwaith Cymdeithasol ar gael i bobl sy’n fyddar neu sy’n cael anhawster clywed gan gynnwys pobl sy’n cyfathrebu mewn Iaith Arwyddion Pryndain neu Wyddor y Bysedd Byddarddall.
Cofrestru
Mae gofyn i’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol gadw cofrestr o bobl sydd a nam ar y clyw. Mae cofrestru yn fater gwirfoddol.
Cynghori
Rydym yn gweithio gyda mudiadau eraill i roi cyngor a chymorth i rieni plant byddar.
Gwasanaeth Dehongli a Chyfathrebu
Os byddwch angen dehonglydd iaith arwyddion, darllenwr gwefusau, cyfieithydd gwyddor y bysedd byddarddall, rhywun i gymryd nodiadau neu weithredwr iaith i destun, cysylltwch ag Uned Gwasanaeth Cyfarthrebu RNID. Fel arfer ni chodir am y Gwasanaeth yma os oes gan RNID arian i dalu am yr angen e.e. trefniadau iechyd neu arian unigol y gellir ei negodi gyda nhw. Mae Gwasanaeth am ddim ar gael i bobl fyddar sy’n cysylltu ag adran Cyngor Sir Ddinbych.
Dosbarthiadau Iaith Arwyddion a Darllen Gwefusau
Darperir hyfforddiant mewn Iaith Arwyddion Prydain yn Sir Ddinbych gan Goleg Llandrillo. Trefnir dosbarthiadau hefyd yn Wrecsam a drefnwyd gan Goleg Iâl (Yale College) ac yn Yr Wyddgrug a drefnwyd gan Goleg Glannau Dyfrdwy. Cynhelir dosbarthiadau darllen gwefus yn Y Rhyl, Bodelwyddan, Wrecsam a’r Wyddgrug. Cysylltwch â’r “Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru” am fanylion.
Clybiau & Gweithgareddau
Mae nifer o fudiadau a chlybiau sy’n darparu gweithgareddau i blant ac oedilion sy’n fyddar neu sydd a nam ar eu clyw. Gall y Gweithiwr Cymdeithasol i Pobl fyddar roi’r manylion i chi.
Gwasanaethau i bobl sydd a nam Clywed a Gweld
Mae anawsterau gyda’r clyw a’r golwg yn gyffrendin yn arbennig hefo pobl hyn. Gall gweithwyr cymdeithasol roi cyngor, gwybodaeth a chymorth ymarferol a hefyd y mudiad gwirfoddol Sense.


Rhoi adborth ar y tudalen hon