Mae'r daflen hon yn delio gyda gwybodaeth y gall oedolion eu derbyn yn eu cartrefi eu hunain ac yn y gymuned, megis gofal cartref, gofal dydd, gwaith project a'r gwasanaeth cyfle gwaith. Mae taliadau am wasanaethau Cartrefi Gofal a Nyrsio a'r Gwasanaeth Byw'n Gymunedol yn cael eu trin ar wahân.
Pam y codir tâl am wasanaethau
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ymroddedig i ddarparu safon uchel o wasanaeth. Mae'r galw yn cynyddu bob blwyddyn ac nid yw cyllid gan y Llywodraeth wedi cadw i fyny gyda'r cynnydd hwn. Nid ydym eisiau torri gwasanaethau hanfodol a'r unig ffordd i gynnal safonau yw codi tâl am rai o'r gwasanaethau a drefnir gennym.
Rydym eisiau sicrhau bod taliadau yn fforddiadwy ac yn deg, ac felly gwneir asesiad unigol o'r hyn y mae pob person yn medru ei dalu.
Os oes gennych fwy na £22,000 mewn cynilion
Bydd disgwyl i chi dalu costau llawn eich gwasanaeth. Medrwch ddewis trefnu hyn eich hunan, a medrwn eich helpu gyda hyn os dymunwch. Efallai y byddai'n well gennych i ni drefnu'r gwasanaeth ar eich rhan. Bydd angen i chi drafod hyn gyda'ch Gweithiwr Cymdeithasol, Trefnydd Cymorth Cartref neu Arweinydd Tîm. Byddant yn eich cynghori ar gost y gwasanaeth a'ch helpu i ddod i benderfyniad.
Os oes gennych lai na £22,000 mewn cynilion
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cyfraniad tuag at gost y gwasanaethau o hyd. Mae gennych hawl i asesiad ariannol, gan fod y swm a delir gennych yn cael ei gyfrifo yn unigol ar gyfer pob person, yn seiliedig ar eu cynilion ac incwm. Byddwch ond yn talu am y gwasanaethau a dderbynnir gennych.
Os ydych yn derbyn Dyfarniad Cronfa Byw'n Annibynnol (ILF), byddwch yn eithriedig rhag talu'r taliadau uchod os ydych yn cyfrannu tuag at eich pecyn ILF ar y gyfradd briodol.
Os ydych chi a'ch partner yn derbyn gwasanaethau
Os ydych chi, a'ch partner, yn derbyn gwasanaethau ill dau, byddwn yn gofyn am wybodaeth ariannol ar bob un ohonoch ar wahân. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth i'ch asesu yn ariannol fel unigolion ac fel cwpl. Byddwn yn seilio unrhyw dâl ar ba bynnag asesiad yw'r mwyaf manteisiol i chi fel cwpl, oni fyddwch yn nodi sut hoffech gael eich asesu
Os oes gennych gyfrifon ar y cyd
Cyfrifir arian a ddelir mewn cyfrif ar y cyd.
Faint fyddwch yn ei dalu
Bydd eich Gweithiwr Cymdeithasol, Trefnydd Gofal Cartref neu Arweinydd Tîm yn falch o roddi amcangyfrif o'r costau i chi. Neu medrwch ffonio eich swyddfa leol a siarad efo Swyddog Asesiad Ariannol a fydd hefyd yn medru rhoi cyngor.
Y cam nesaf
Bydd pawb a asesir ar gyfer gwasanaethau a all fod yn cynnwys tâl neu sy'n cael eu heffeithio gan newidiadau i'r Polisi Codi Tâl yn cael cynnig archwiliad budd-daliadau gan y Tîm hawliau Lles.
Beth i'w wneud os ydych yn anghytuno gyda'ch asesiad neu os na fedrwch dalu am eich gwasanaethau:
Yn y lle cyntaf, dylech siarad gyda'r person sydd wedi trefu eich gwasanaethau. Neu, siaradwch efo'r Swyddog Asesiad Ariannol yn eich swyddfa leol.
Os ydych eisies wedi gwneud hyn, neu os teimlwch na fedrwch siarad gydag unrhyw un yn y swyddfa leol, cysylltwch gyda'r Swyddog Cyfathrebu / Cwynion ym Mhencadlys y Gwasanaethau Cymdeithasol ym Mhrestatyn.

Rhoi adborth ar y tudalen hon