| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Strategaeth Gymunedol

Strategaeth Gymunedol

Paratowyd Strategaeth Gymunedol wreiddiol Sir Ddinbych  yn 2004 gan Gyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth hefo'r cyhoedd, y sector preifat, gwirfoddol a chymunedol, ac asiantau eraill a redir yn Sir Ddinbych. Roedd y Strategaeth yn cynrychioli blaenoriaethau cytunedig Sir Ddinbych at y dyfodol i'w dilyn mewn partneriaeth y pryd hynny. Gwneir arolwg o'r Strategaeth Gymunedol a disgwylir cael y fersiwn derfynol erbyn Haf 2009.

Mae pedwar Strategaeth Partneriaeth allweddol sy'n bwydo'n uniongyrchol i'r Strategaeth Gymunedol sef:

Strategaeth Sir Ddinbych Iach

Mae Strategaeth Sir Ddinbych iach yn amlinellu cynlluniau sy'n helpu gwella Iechyd a Lles pobl Sir Ddinbych.

Cynllun Sengl Plant A Phobl Ifanc

Cynllun sengl Plant a Phobl Ifanc (2008-2011) yw’r cynllun i bob gwasanaeth i Blant a Phobl Ifanc rhwng  0 a 25 a'u teuluoedd.

Strategaeth Diogelwch Cymunedol

Mae Sir Ddinbych wedi sefydlu adran Diogelwch Cymunedol i sicrhau bod ymroddiad yr Awdurdod i Ddiogelwch Cymunedol yn aros yn gadarn a'i fod yn cyfarfod  newidiadau mewn blaenoriaethau Diogelwch Cymunedol yn genedlaethol  ac yn lleol.

Cynnlun Datbl Ygiad Lleol

Mae'r Cynllun Datblygiad Lleol  yn rhoi canllawiau ar beth ellir ei adeiladu a ble yn y sir dros gyfnod o 15 mlynedd. Mae gofyn i bob Cyngor Sir yng Nghymru gynhyrchu Cynllun Datblygiad Lleol  i'w hardal.

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0