| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Cefnogi Pobl

Cynllun Gweithredu Cefnogi Pobl Sir Ddinbych 2008 - 09 a Strategaeth 2008 - 11

Mae’r Cabinet wedi cytuno â’r Strategaeth Cefnogi Pobl ac mae wedi’i chyflwyno i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Cafodd y Strategaeth Cefnogi Pobl ei datblygu gan y Tîm Cefnogi Pobl, a oedd yn cael ei arolygu gan y Grŵp Cynllunio Cefnogi Pobl.   Diben y ddogfen yw amlinellu’r weledigaeth a chyfeiriad y newidiadau ar gyfer y gwasanaethau sy’n cael eu cyllido gan Cefnogi Pobl yn Sir Ddinbych yn ystod y tair blynedd nesaf, gan symud oddi wrth y gwasanaethau a etifeddwyd o’r cyfnod cyn cyflwyno’r Rhaglen Cefnogi Pobl fis Ebrill 2003.  

Mae’r strategaeth yn symud tuag at ddulliau mwy strategol o gomisiynu, cynllunio a chyllido gwasanaethau tai a chefnogi tenantiaid yn y dyfodol.  Bydd hyn yn golygu sicrhau y nodir darparu gwasanaeth fel blaenoriaeth, ei fod yn cael canlyniadau positif a bod ganddo gysylltiadau diffinedig â chynlluniau strategol cyffredinol ac allweddol ac â’r Fframweithiau Gwasanaeth Cenedlaethol.

Cytunwyd ar nodau, amcanion a gweledigaeth y strategaeth, ac felly hefyd y gweithrediadau ar gyfer 2008 – 09.  Nid yw’r gweithrediadau ar gyfer y tu hwnt i 2009 yn bendant a bydd y rhain yn cael eu diweddaru a’u datblygu ar ôl trafod gyda darparwyr a rhanddeiliaid.
 

Gellir gofyn am gopi llawn o’r cynllun a / neu’r atodiadau oddi wrth y Tîm Cefnogi Pobl neu drwy e-bost at katie.davies@sirddinbych.gov.uk

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0