| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Hanes Lleol
Map Speed o Sir Ddinbych, 1610

Mae gan Archifdy Sir Ddinbych ystod eang o gofnodion gwreiddiol, sy’n cynnwys gwybodaeth werthfawr o’r ail ganrif ar bymtheg hyd yr ugeinfed ganrif, ar gyfer yr ymchwilydd hanes lleol.  Mae’r enghreifftiau’n cynnwys: mapiau, cofnodion stad, gweithredoedd, cofnodion plwyf, cofnodion cyngor, cofnodion llys, hen ffotograffau, papurau newydd, cyfarwyddiaduron masnachol, a ffurflenni cyfrifiad.  Gallwch bori yn ein mynegai lleoedd ar-lein i gael syniad o’r hyn sydd ar gael am blwyfi a threfi yn Sir Ddinbych, yn cynnwys y rhai oedd yn Sir Ddinbych cyn 1974.

Yn ogystal, mae llawer o grwpiau hanes lleol yn Sir Ddinbych a fydd yn gallu eich helpu gyda'ch ymchwil ac mae gan eich llyfrgell lleol nifer fawr o adnoddau hanes lleol ar gael. Dilynwch y cysylltiadau ar y dudalen hon am fwy o fanylion.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0