Mae’n well bob amser cychwyn o’r hyn sy’n hysbys eisoes a gweithio’n ôl. Efallai na allwch ddarganfod pryd yn union yr adeiladwyd y tŷ ond fe allwch ddarganfod pwy oedd yn byw ynddo, ei statws ac unrhyw ddefnydd blaenorol. Gallai cofnodion a gedwir yn yr archifau, gwasanaeth y llyfrgell, ac adnoddau ar-lein eich helpu’ch ymchwil ond cyn ystyried y rhain, ceisiwch ddarganfod cymaint ag y medrwch ynglŷn â’r tŷ a’r ardal o’i gwmpas. Gofynnwch i gymdogion os yr oeddent yn adnabod y deiliaid blaenorol, neu’n gwybod am unrhyw newid enw neu ddefnydd yn y gorffennol. Dylid nodi fod y system bresennol o rifo tai wedi ei chreu ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg ac mae’n bosibl fod enwau tai hefyd wedi newid dros amser.
Gall fod yn ddefnyddiol cysylltu â’ch grŵp hanes lleol oherwydd efallai y gallent roi gwybodaeth ychwanegol i chi (dilynwch y linc ar y dudalen hon). Dylid rhoi sylw penodol i fanylion pensaernïol y tŷ; yn aml gall roddi mwy o awgrym i chi o ddyddiad yr eiddo na ffynonellau dogfennol.
Rhybudd: Gall olrhain hanes eich tŷ, er mor ddiddorol a boddhaol ydyw’n aml, gymryd amser maith ac weithiau heb unrhyw ganlyniad.
Archifdy Sir Ddinbych
Dyma restr o’r mathau o gofnodion, gedwir yn Archifdy Sir Ddinbych, sy’n cael eu defnyddio amlaf ar gyfer olrhain hanes adeiladau:
- Gweithredoedd
- Mapiau a chynlluniau
- Cyfrifiad
Dilynwch y linciau ar y dudalen hon i ddarganfod mwy am bob un o’r ffynonellau hyn.
Mae llawer o gofnodion eraill a gedwir yn Archifdy Sir Ddinbych yn cynnwys gwybodaeth werthfawr ar gyfer yr ymchwilydd hanes tai, yn cynnwys cofnodion trethiant – yn cynnwys treth aelwyd ac asesiadau treth tir, ffotograffau, cyfarwyddiaduron masnachol, cofrestrau etholiadol, cofrestrau tafarn ac ymrwymiadau, trwyddedau tai cwrdd anghydffurfiol, llyfrau treth, ewyllysiau a rhestrau eiddo, cofnodion plwyf – tirlyfrau, a chofnodion addysg.
Gwasanaethau Llyfrgell
Weithiau bydd ymchwil wedi ei wneud eisoes ar ardal, stryd neu adeilad, felly mae’n werth edrych ar lyfrau hanes lleol. Cedwir llyfrau hanes lleol ar gyfer Sir Ddinbych gan Wasanaeth Llyfrgell Sir Ddinbych. Dilynwch y linciau i’r catalog ar-lein i chwilio’r llyfrau sydd ar gael o lyfrgelloedd Sir Ddinbych.
Adnoddau ar-lein
Dilynwch y linciau ar y dudalen hon i adnoddau ar-lein defnyddiol ar gyfer haneswyr tai, yn cynnwys Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, sydd â gwybodaeth ar adeiladau rhestredig neu amlwg yng Nghymru


Rhoi adborth ar y tudalen hon