Mae mapiau o wahanol fathau yn medru bod yn ddiddorol a defnyddiol mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys darparu tystiolaeth wrth olrhain hanes tŷ unigol, stad neu gymuned, neu ffyrdd, llwybrau troed, rheilffyrdd neu gamlesi. Y mapiau hawddaf i'w defnyddio, y mwyaf hygyrch a chyflawn yw'r mapiau arolwg ordnans a mapiau'r degwm. Tra bo mapiau eraill yn yr acrhifdy a allai fod yn ddefnyddiol i chi, y mapiau degwm ac arolwg ordnans yw'r unig rai sy'n cynnwys ardal gyfan hen Sir Ddinbych ar raddfa ddefnyddiol. Mae gan yr archifdy hefyd rai mapiau arolwg ordnans a'r holl fapiau degwm ar gyfer ardaloedd yn Sir Ddinbych newydd a oedd gynt yn Sir y Fflint a Sir Feirionnydd. Mae mapiau printiedig cynnar, megis map John Evans o Ogledd Cymru, 1795, tra'n ddiddorol, fel rheol yn rhy fach i fod o lawer o ddefnydd wrth geisio canfod eiddo unigol.
Dyma rai o'r gwahanol fathau o hen fapiau sydd ar gael i chi eu harchwilio yn Archifdy Sir Ddinbych, Rhuthun:
Mapiau arolwg ordnans
Gall mapiau Arolwg Ordnans fod yn ffynhonnell ddefnyddiol iawn, yn enwedig ar gyfer canfod lleoliad tŷ mewn perthynas ag eiddo arall a nodweddion daearyddol, a all fod yn ddefnyddiol wrth astudio mapiau hŷn. Mae'n well dechrau gyda'r rhain a gweithio'n ôl i ffynonellau eraill. Cyhoeddwyd tri rhifyn o'r 1870 i'r 1930au, ar raddfeydd o 6 modfedd a 25 modfedd i'r filltir. Mae'r mapiau arolwg ordnans a gedwir yn yr archifdy yn cynnwys hen Sir Ddinbych (cyn 1974) a oedd â ffiniau gwahanol iawn i'r un bresennol. Bydd staff yr ystafell ymchwil archifdy yn eich cynorthwyo i ganfod yr union ardal sydd ei hangen arnoch.
Mapiau degwm
Mae 'degwm' yn golygu un rhan o ddeg, yn llythrennol, ac roedd yn daliad rhent am dir a wnaed i eglwys y plwyf. Yn wreiddiol roedd yn daliad mewn anifeiliaid neu gynnyrch amaethyddol o amrywiol fathau, a roddwyd i reithor neu ficer y plwyf. Ym 1836 arweiniodd Deddf Cyfnewid y Degwm, a oedd yn disodli taliadau mewn cynnyrch gydag arian, at benodi Comisiynwyr ar gyfer pob plwyf, ac arolygu a phrisio holl eiddo degymadwy, ac asesu faint o rent degwm a oedd yn daladwy ar bob un.
Y mapiau degwm manwl a'u dosraniadau yw'r mapiau cynharaf yn aml sy'n dangos y cyfan neu'r rhan fwyaf o'r plwyf ar un map sengl. Rhoddwyd rhif i bob gardd a chae, ac roedd y dosraniad - neu'r atodlen ysgrifenedig a oedd yn mynd gyda'r map - yn rhoi enw'r tirfeddiannwr a'r tenant, enw'r cae, yr hyn a ddefnyddiwyd y tir ar ei gyfer, sawl erw a'r swm a oedd yn daladwy, ar gyfer pob llain tir a oedd wedi ei rifo. Mae'r dosraniad yn aml wedi ei drefnu yn ôl enw'r tirfeddiannwr. Mae'r mapiau degwm yn ffynhonnell ddefnyddiol iawn, ond mae'n bwysig nodi bod mapiau ar gyfer plwyfi cyffiniol yn aml wedi eu llunio ar raddfa cwbl wahanol, ac felly nid yw'r ffiniau yn cyd-daro. Hefyd, nid oedd comisiynwyr y degwm bob amser yn rhoi'r gogledd ar y top, fel yr ydm wedi arfer ei weld, ac o ganlyniad gall y gorweddiad edrych yn rhyfedd i lygaid modern. Nid oedd gan y comisiynwyr ddiddordeb mewn adeiladau nac ardaloedd adeiledig, felly nid yw'r wybodaeth ar y mapiau degwm a'r dosraniadau, fel rheol, mor ddefnyddiol ar gyfer trefi.
Dyfarniadau a chynlluniau cau tir
Cynhyrchwyd mapiau a dyfarniadau Cae'r Tiroedd yn y broses o amgáu tir comin a thir gwastraff, a weithredwyd yn wreiddiol gan ddeddfau seneddol preifat ond yn ddiweddarach dan Ddeddf Gyffredinol Cau Tiroedd 1836. Arolygwyd y tir gan gomisiynwyr a benodwyd, ac fe gofnodwyd eu penderfyniadau mewn dyfarniad cau tiroedd ysgrifenedig gyda map ynghlwm. Roedd y dyfarniadau a'r mapiau yn dangos nid yn unig ffiniau'r caeau a amgaewyd ond hefyd yn cynnwys Ilwybrau troed, draeniau, cyrsiau dŵr ac ati. Mae'r ardal sy'n dod dan y cynlluniau hyn fel rheol wedi ei gyfyngu i'r ardal sy'n cael ei amgáu; ni fydd y map yn dangos eiddo cyffiniol, na gweddill y plwyf.
Fel rheol, roedd dyfarniadau cau tir yn cael eu cyflwyno i'r Llys Chwarter (y llys lleol a oedd â phwerau tebyg i rai awdurdod lleol) ac felly maent i'w canfod gan amlaf ymhlith cofnodion y Llys Chwarter.
Mapiau stad
Yn aml, roedd cynlluniau o'u heiddo yn cael eu comisiynu gan y bonedd. Nid ydynt fel rheol yn cynnwys tir nad oedd yn eu meddiant hwy ond mae'n werth holi yn yr Archifdy i weld os oes map o'r stad neu'r ardal y mae gennych ddiddordeb ynddynt, oherwydd efallai ei fod yn dyddio o gyfnod cynhararch na'r mapiau eraill a nodir yma. Yn aml, dyma'r mapiau cynharaf sydd ar gael, ond maent yn amrywio'n fawr o ran manylion a chywirdeb ac ychydig iawn sydd wedi goroesi o'r cyfnod cyn 1750.
Cynlluniau ymgymeriadau cyhoeddus
Mae cynlluniau o waith cyhoeddus yn dangos manylion ffyrdd, camlesi, rheilffyrdd ac ati. Yn aml, maent hefyd yn dangos eiddo yng nghyffiniau'r gwaith adeiladu, cynlluniau lleoliad, ffiniau, llwybrau mynediad ac ati. Mae'r llyfr cyfeirio hefyd yn rhoi'r rhif ar y cynllun, disgrifiad byr ac enw perchennog a deiliad ar gyfer pob eiddo.
Cynlluniau rheoli adeiladu
Mae cynlluniau rheoli adeiladu yn dechrau ymddangos yn ail hanner y 19eg ganrif wrth i reoliadau cynlluniau ac adeiladu trefi ddod yn bwysicach ym mhob bwrdeistref. Gellir nawr eu canfod yn archifau awdurdodau Ileol ac, os ydych yn ffodus ac os yw'r cofnodion yn goroesi ar gyfer eich ardal chi, medrent ddangos nid yn unig yn union pryd adeiladwyd eich tŷ, ond rhoi cynllun a darlun pensaer ohono hefyd


Rhoi adborth ar y tudalen hon