| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Fersiwn symudol | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Manylion Cysylltu'r Gwasanaeth
Cyfeiriad:
Gwarchod Cymdeithasol
Cyngor Sir Ddinbych
64 Ffordd Brighton
Y Rhyl
Sir Ddinbych
LL18 3HP
Teleffon:
01824 708368
Ffacs:
01824 712349
Ebost
Gwybodaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles
Gwybodaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles

Mae 'Sir Ddinbych Iach', ail Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles ar gyfer y Sir gyfan yn awr ar gael ar-lein.

Datblygwyd y strategaeth gan Bartneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Sir Ddinbych ac mae’n amlinellu’r cynlluniau ar gyfer y 3 blynedd nesaf, o 2008-2011.  Y nodau yw gwella iechyd a lles ar gyfer pobl Sir Ddinbych, ond mae 'Sir Ddinbych Iach' yn ymwneud â mwy na dim ond y gwasanaethau y gallem fod eu hangen pan fyddwn yn sâl – mae hefyd yn ymwneud â’r hyn y gallwn ei wneud i’n cadw’n hunain yn iach.

Mae’r polisi’n gosod allan ddull strategol i helpu i gyflawni gwasanaethau gwell i’r rheiny sydd eu hangen ac i gynorthwyo unigolion a chymunedau i wella eu hiechyd a’u lles eu hunain.

Fe lansiwyd ymgyrch gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i helpu’r cyhoedd i ddewis y gwasanaeth iechyd sy’n fwyaf addas i’w anghenion.  Mae’r ymgyrch wedi ei dylunio i leihau presenoldeb diangen mewn unedau Damweiniau ac Achosion Brys ac atal defnydd anghywir o’r gwasanaeth brys 999 yn ogystal â helpu cleifion i wneud penderfyniadau mwy gwybodus am eu gofal eu hunain.
Yn rhan o hyn, mae thermomedr 'Dewis Doeth' ar gael gydag amrediad o liwiau ar gyfer gwahanol gyflyrau ac mae’n ganllaw hawdd i ddangos y gwasanaeth sy’n fwyaf addas i bob salwch.    

Pwrpas Cyffredin Craidd y Tîm Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles yw:

“Mae’r Tîm IGCLl yn cefnogi Partneriaid i gynllunio gyda’i gilydd fel y gallant gyflawni gyda’i gilydd, gan y credwn mai mewn Partneriaeth y mae’r ffordd orau o gyflawni gwasanaethau arloesol o ansawdd”.

Os ydych yn dymuno manylion cyswllt llawn y tîm Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles (HSCWB) cerwch i wefan Sir Ddinbych Iach yn y dolenni allanol.

I gael gwybodaeth ar ein Partneriaid, cliciwch ar y dolenni allanol ar yr ochr chwith.

HSCWB Logos

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2012 Cyngor Sir Dinbych