Ble gallaf ddod o hyd i wybodaeth am yr ardal, lleoedd i fynd a phethau i’w gwneud a’u gweld?
Mae gan y sir 3 Ganolfan Groeso sydd ar agor gydol y flwyddyn ac 1 ganolfan dymhorol. Mae’r canolfannau hyn yn darparu gwybodaeth am lety yn yr ardal leol a’r ardal o gwmpas, taflenni am atyniadau, teithlyfrau ar gyfer gwibdeithiau undydd, cyfleusterau archebu ar gyfer Theatrau dethol a Thripiau Coetsis. Neu fel arall, cyn ymweld â’r ardal gall y Ganolfan Groeso anfon gwybodaeth allan drwy’r post.
Yn ogystal mae gennym ddwy wefan sydd hefyd yn darparu’r wybodaeth uchod, yn dibynnu ar ba ran o’r sir yr ydych yn bwriadu ymweld â hi. Dyma’r cyfeiriadau ar gyfer y safleoedd hyn :-
Y Rhyl a Phrestatyn - http://www.rhyl-prestatyn.co.uk
Y Gororau - http://www.borderlands.co.uk
Pan fyddaf yn chwilio am lety, paham mai dim ond rhai lletyau yn yr ardal sydd wedi’u rhestru ac nid y cyfan ohonynt?
Gan nad oes dim cynllun cofrestru statudol ar gyfer llety ar hyn o bryd, mae’n rhaid inni sicrhau bod y llety y rhown wybod ichi amdano yn cyrraedd rhyw safon o ran ansawdd a gwasanaeth. I wneud hyn byddwn yn dilyn y meini prawf a osodwyd gan Fwrdd Croeso Cymru sy’n dweud y dylai’r holl lety y byddwn yn ei anfon ymlaen i’r cwsmer fod naill ai wedi’i raddio neu wedi gwneud cais i gael ei raddio gan Fwrdd Croeso Cymru, yr AA neu’r RAC.
Ble gallaf ddod o hyd i Wybodaeth Teithio am yr Ardal? Gellir cael y rhan fwyaf o wybodaeth am deithio o’r rhwydwaith o Ganolfannau Croeso yn y Sir. Neu fel arall ffoniwch un o’r rhifau canlynol neu ymweld â’u gwefannau os gwelwch yn dda:-
Teithio â Thrên - Ymholiadau Trenau Cenedlaethol - 08457 48 49 50 neu http://www.nationalrail.co.uk/planmyjourney
Yn darparu Amserlen gynhwysfawr a gwybodaeth am brisiau tocynnau ar rwydwaith trenau Prydain.
Teithio â Bws - Traveline Cymru - 0871 200 22 33 neu
http://www.traveline-cymru.org.uk/
Yn darparu gwybodaeth Bysus ar wasanaethau o fewn Sir Ddinbych ac ymhellach i ffwrdd.
Teithio Coetsis Cenedlaethol - 08705 80 80 80 neu http://www.nationalexpress.com
Yn darparu gwybodaeth Teithio Coetsis a gwybodaeth am brisiau tocynnau ar Rwydwaith National Express.
Rydwi angen gwybodaeth twristiaeth ar gyfer fy astudiaethau, ble fedra i edrych ?
E-bostiwch eich enw a'ch cyfeiriad llawn i dcc_tourism@denbighshire.gov.uk neu ffoniwch 01824 708090 ac fe anfonwn becyn atoch.
Rwyf yn Drefnydd Digwyddiadau ac rwyf eisiau i’r digwyddiad sy’n cael ei gynnal yn y Sir gael ei restru - sut mae mynd o gwmpas hyn?
I gael eich digwyddiad wedi’i restru yn yr Arweinlyfr Digwyddiadau, sy’n cael ei argraffu tua’r Pasg, ffoniwch ar 01745 344515 neu drwy ebost rhyl.tic@sirddinbych.gov.uk gyda manylion eich digwyddiad os gwelwch yn dda. Rhaid i bob digwyddiad gael ei gadarnhau cyn cael ei gyhoeddi.
Rwyf yn Drefnydd Digwyddiadau ac yn dymuno cynnal fy Nigwyddiad yn y Sir - â phwy wyf yn cysylltu?
Mae gan Sir Ddinbych ei swyddog digwyddiadau ei hun, Sian Davies a gellir cysylltu â hi ar 01824 712704 neu drwy e bost sian.davies@sirddinbych.gov.uk Bydd Sian yn gallu trafod eich syniadau a’ch cynlluniau â chi.

Rhoi adborth ar y tudalen hon