| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
CANTATA

Cefndir

Mae CANTATA yn brosiect gwerth 1.9 miliwn Euro i ddatblygiad Twristiaeth a noddir trwy Interreg IIIB Atlantic Area Programme gan weithio yn Sir Ddinbych, County Clare, Iwerddon, Galicia, yng ngogledd orllewin Sbaen, Poher, yng ngorllewin Llydaw a Montemor-o-Velho yng ngorllewin Portiwgal.

Yn wreiddiol daeth y prosiect o County Clare, Iwerddon, fel cynllun

'Live the Life'. Gwelwyd bod Twristiaeth yn allweddol i economi Ewrop ond mae ymchwil diweddar wedi dangos bod ymwelwyr yn fwyfwy amheus o farchnata prif ffrwd. Maen nhw'n dioddef o or-farchnata a gallent gael eu siomi yn dilyn eu profiad fel twristiaid.

Mae twristiaeth prif ffrwd yn gyrru ymwelwyr i fannau sy'n boblogaidd gan dwristiaid. Nod CANTATA yw symud ymwelwyr o'r llefydd poblogaidd i lefydd mwy ymylol a mannau sydd heb eu gor-ddatblygu, rhoi profiad gwreiddiol i'r twristiaid a hyrwyddo a chryfhau nodweddion y gwahanol ardaloedd.

Gall CANTATA wneud hyn trwy gynorthwyo grwpiau twristiaid lleol a busnesau lleol eu helpu eu hunain a'i gilydd trwy weithdai i gael gwybodaeth leol, arwahanrwydd, balchder o'r atyniadau twristiaeth lleol a ffyrdd o groesawu ymwelwyr, marchnata ar lefel leol, gwella cyswllt lleol, derbyn gweithgareddau cenedlaethol a marchnata cydwladol os yn bosib.

Pobl sydd wrth galon CANTATA. Bwriedir i'r prosiect feithrin synnwyr o falchder o fewn y cymunedau lleol hyn, balchder yn eu rhanbarth a'u ffordd o fyw. Bydd hyn yn dod yn fyw i ymwelwyr yn nhermau croeso a gwybodaeth drylwyr o'r ardal a hyder bod yr ardal o ddiddordeb gwerth chweil i ymwelwyr.

CANTATA yn Sir Ddinbych

Arweinir CANTATA gan Gyngor Sir Ddinbych sy'n cydgordio prosiect rhyngwladol ar ran yr holl bartneriaid.

Mae Sir Ddinbych yn gweithio'n glos hefo'n partneriaid prosiect ar CANTATA a thrwy'r prosiect byddwn yn dysgu o brofiad ein gilydd a'r gwerth ychwanegol y bydd CANTATA yn ei ddod i fusnesau Twristiaeth lleol.

Pam fod Cantata yn bwysig i fusnesau yn Sir Ddinbych?

Nod Cantata yw denu ymwelwyr i leoliadau llai adnabyddus a'u cysylltu hefo diwylliant lleol brodorol.

Yn Sir Ddinbych, bydd yn golygu marchnata eang trwy'r sir, hyrwyddo gweithdai am ddim i fusnesau a rhoi cyfle newydd i grwpiau masnach rwydweithio a mynegi llais.

Y stori cyn belled ….

Ymgynghoriad

Bu tîm Cantata Sir Ddinbych yn cyfarfod hefo masnachwyr ar draws y Sir ac o wahanol fathau o fusnes.

Trefnwyd grwp ymgynghorol i ddarparu cyfle i bob busnes ar draws Sir Ddinbych fynegi barn ar lunio gweithgareddau i'r prosiectau.

Cynhaliwyd cyfarfodydd hefo busnesau a'r prif gamau y teimlwyd y dylid eu darparu i hybu llwyddiant Twristiaeth yn Sir Ddinbych :

· Codi safon gwasanaethau cwsmeriaid yn Sir Ddinbych i gystadlu hefo atyniadau twristiaeth eraill.
· Gwella safon y cynnig i Dwristiaeth
· Marchnata'r sir gyfan
· Mwy o sylw i Sir Ddinbych fel cyrchfan twristiaeth

Nod Cantata fydd trafod y meysydd hyn trwy :

· Darparu gweithdai arbenigol am ddim i helpu busnesau dyfu a datblygu eu cynnig i dwristiaeth.
· Ymchwilio i bosibilrwydd cael gwefan ymwelwyr yn Sir Ddinbych a marchnata hynny
· Hyrwyddo gweithgareddau rhwydweithio i gysylltu Twristiaeth ar draws y sir.

Cyfleoedd am ddim!

‘Rhoi gwasanaeth ardderchog i'r cwsmer i chwyddo proffid.'

Mae arferion a disgwyliadau ymwelwyr yn newid yn gyson. I gadw i fyny hefo'r rhain mae Cantata yn darparu gweithdai am ddim i berchnogion a rheolwyr busnesau bach neu faint canolig yn Sir Ddinbych.

Bydd y gweithdai'n awgrymu syniadau da sut i ddenu cwsmeriaid newydd a chael cwsmeriaid i ddod yn ôl a gwella proffid eich busnes.

Darperir cinio a lluniaeth.

Neu www.cantata.eu.com neu cliciwch yma i gofrestru am weithdai am ddim yn eich ardal yn 2007

e-bostiwch: cantata@sirddinbych.gov.uk

ffoniwch: 01824 708244

postiwch: Cantata

Cyngor Sir Ddinbych

Yr Hen Garchar

46, Stryd Clwyd

Rhuthun

Sir Ddinbych

LL15 1HP

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0