Cynllun Prentisiaeth Fodern, Cyngor Sir Ddinbych - Calvin
Cychwynnais gyda Chyngor Sir Ddinbych yn 2003. Nid oeddwn yn sicr beth roeddwn eisiau ei wneud ond roeddwn eisiau gweithio mewn swyddfa. Gwelais hysbyseb yn y papur lleol am Brentisiaeth Fodern gyda Chyngor Sir Ddinbych. Meddyliais y byddai hyn yn gyfle gwych i gael lle yn y Cyngor a chael profiad swyddfa ar yr un pryd.
Pan rydych yn Brentis Modern, rydych yn symud i adran wahanol bob 6 mis dros gyfnod o ddwy flynedd. Roeddwn yn brentis modern am ddwy flynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw roddwn mewn pedair adran wahanol. Yr adran gyntaf oedd GCT (Gwybodaeth, Cyfathrebu a Thechnoleg). Mae'r tîm yn delio â phopeth sy'n gysylltiedig â systemau cyfrifiadurol, o archebu ceblau i arsefydlu meddalwedd. Dysgais lawer am systemau GCT a sut mae systemau GCT yn gweithio ledled y sir. Roedd yr ail leoliad gyda thîm hyfforddi'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae swyddogion hyfforddi mewnol yn cynnal cyrsiau hyfforddi yn benodol ar gyfer staff Gwasanaethau Cymdeithasol ar bynciau yn amrywio o Fi Iach i Amddiffyn Oedolion Hawdd eu Niweidio. Helpais drefnu'r cyrsiau mewnol hyn ar gyfer staff Sir Ddinbych. Roedd y trydydd lleoliad gydag Amddiffyn y Cyhoedd. Yma, roeddwn yn delio'n bennaf gyda galwadau ffôn gan y cyhoedd mewn perthynas â materion Iechyd yr Amgylchedd, a Safonau Masnach hefyd. Yr adran olaf oedd y Tîm Cydymffurfio, yn delio â gordaliadau Budd-daliadau Tai a materion Twyll. Roeddwn yn helpu cyfeirio galwadau ac ateb ymholiadau ffôn.
Yn ystod fy lleoliadau gyda'r pedwar tîm, cefais brofiad gweinyddol gwerthfawr, gan gynnwys: teipio, ffacsio, llungopïo, cyfarch cleientiaid a delio ag ymholiadau ffôn. Tra roeddwn ar y Cynllun Prentisiaeth Fodern, bûm yn ceisio am amrywiol swyddi roedd gennyf ddiddordeb ynddynt, ac roeddwn yn llwyddiannus yn cael swydd barhaol fel Cynorthwy-ydd Gweinyddol yn yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol. Roeddwn wedi bod yn y swydd honno am ddwy flynedd pan wnes gais am swydd yn yr Adran Gyllid. Roeddwn yn llwyddiannus ac rwyf nawr yn gweithio rhan-amser i'r tîm Cyllid a rhan amser yn fy rôl weinyddol.
Ers dod i weithio i Gyngor Sir Ddinbych rwyf wedi bod ar amrywiol gyrsiau ac rwyf wedi cwblhau NVQ Lefel 2 mewn Gweinyddiaeth Busnes. Rwyf ar hyn o bryd yn cwblhau NVQ Lefel 3 mewn Gweinyddiaeth Busnes. Mae'r Cynllun Prentisiaeth Fodern yn ffordd wych o gael cymwysterau perthnasol i'ch rôl a chynyddu eich siawns o gael swydd barhaol, yn y Cyngor, neu yn rhywle arall. Buaswn yn argymell Cynllun Sir Ddinbych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio i'r Awdurdod Lleol.


Rhoi adborth ar y tudalen hon