| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Gweithiwr Cymdeithasol gyda Thîm Iechyd Meddwl

Steven, Gweithiwr Cymdeithasol gyda Thîm Iechyd Meddwl cymunedol Sir Ddinbych

Rydw i wedi gweithio hefo pobl ar hyd fy oes. Wedi gadael yr ysgol, mi es i weithio fel cigydd, ac yna gweithiais fel person hunan-gyflogedig yn gwerthu ac yn trin peiriannau golchi. Dim ond ar ôl i mi briodi Gweithiwr Cymdeithasol y penderfynais i symud i faes Gofal Cymdeithasol, a deuthum yn Weithiwr Cefnogol yn yr Hafod, Y Rhyl.

Cwblheais fy nghymhwyster NVQ Lefel 3 mewn Hyrwyddo Annibyniaeth, ac yna llwyddais i ennill lle ar y Cwrs Diploma i Weithwyr Cymdeithasol yn NEWI, Wrecsam. Cefais y symudiad o Waith Cefnogi i Waith Cymdeithasol yn un naturiol iawn, a chwblheais hyfforddiant oedd yn seiliedig ar waith gan ddal 2 swydd Gweithiwr Cymdeithasol Cynorthwyol tra oeddwn yn y Coleg. Roedd yr ail o’r rhain wedi’i lleoli yn yr Hafod, ac unwaith yr oeddwn wedi llwyddo i ennill Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol, cyflwynais gais a llwyddais i gael swydd Gwaith Cymdeithasol yma yn yr Hafod.

Ers dod i weithio i Sir Ddibych, rwyf wedi ymgymryd â hyfforddiant PQ1, wedi mynychu sawl cwrs ar gyfrifiaduron. Ar hyn o bryd rwyf yn astudio i ennill cymhwyster GCC.  Rwyf hefyd wedi cwblhau modiwl Diploma, o’r enw ‘Rheoli Pobl gyda Seicosis’, sydd yn arbennig o berthnasol i fy nghwaith yma yn yr Hafod.

Gydag oedolion y bûm i’n gweithio trwy gydol fy ngyrfa, ac mae fy ngwaith yn golygu rheoli achosion, cwblhau asesiadau anghenion a risg a chynorthwyo gyda materion yn ymwneud â digartrefedd. Rydw i’n gweithio gyda defnyddwyr y gwasanaethau i fonito eu iechyd meddwl a’u lles, sicrhau eu bod yn mynychu apwyntiadau a hyrwyddo sgiliau byw yn ôl y gofyn.  Rydw i’n cydweithio gyda gweithwyr cymdeithasol eraill, ymgynghorwyr, nyrsys, gweithwyr cefnogi a therapyddion galwediagethol i’r diben hwn.  Wrth weithio gyda phobl, ein bwriad, bob amser, yw eu cadw o’r ysbyty, gan roi grym iddyn nhw fod mor annibynnol â phisibl, gan sicrhau diogelwch defnyddwyr y gwasanaethau a’r cyhoedd.

Mae fy rôl wedi newid yn sylweddol ers i mi ddod yn Weithiwr Cymdeithasol. Mar gen i fwy o bethau i’m herio a mwy o gyfrifoldebau. Rhaid i m i gynnal lefel dda o wybodaeth am y ddeddfwriaeth berthnasol  ac rydw i’n gweithio mewn partneriaeth gyda’r heddlu, staff yr ysbyty ac ymgynghorwyr.

Mae’r cwrs ASW yr wyf yn ei fynychu ar hyn o bryd yn mynnu fy mod yn unigolyn sydd â chymhelliant ac mae wedi golygu fy mod wedi adeiladu portffolio. Fel canlyniad fe gynyddodd fy ngwybodaeth.

Teimlaf fy mod yn cael cefnogaeth dda a chyfle rheolaidd i dderbyn hyfforddiant yma yn Sir Ddinbych.  Mae’r baich achosion yn yr Hafod yn rhesymol ac yn un y gellir ei reoli ac mae’r graddfeydd cyflog teg yn fonws ychwanegol. Rydw i wedi byw yn Sir Ddinbych a theimlaf yn gadarnhaol ynghylch Sir Ddinbych fel cyflogwr; buaswn yn ei gymeradwyo i unrhyw un sydd yn meddwl am symud i’r ardal.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0