| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Cyngor Sir Ddinbych Cynllun Prentisiaeth Fodern (Zara)

Gadewais yr ysgol heb wybod beth roeddwn eisiau ei wneud. Euthum i Yrfaoedd Cymru am gyngor, a dyna ble dysgais am y cynllun prentisiaeth fodern yr oedd Cyngor Sir Ddinbych yn ei redeg. Ar ôl gwneud cais am brentisiaeth, cynigiwyd lleoliad ac fe'i derbyniais.

Cefais fy nghyflwyniad gyda Swyddog Dysgu a Datblygu, ar 5ed Medi 2005 yng Ngholeg Dinbych, ac yna aeth Pauline â fi i'm lleoliad cyntaf, gyda'r Tîm Datblygiad Proffesiynol Gwasanaethau Cymdeithasol. Tra'n gweithio gyda'r tîm Datblygiad Proffesiynol, cychwynnais ar fy NVQ lefel 2 mewn Gweinyddiaeth Busnes. Roedd rhai o'm dyletswyddau gyda'r tîm Datblygiad Proffesiynol yn cynnwys anfon cadarnhad hyfforddiant allan at staff CSDd, paratoi deunydd hyfforddi ar gyfer Swyddogion Datblygu Staff a dyletswyddau gweinyddol cyffredinol. Rhaid oedd i mi hefyd gynnal Llyfrgell y Tîm Datblygiad Proffesiynol, a ddefnyddir gan staff CSDd a myfyrwyr. Mwynheais yn fawr fy nghyfnod gyda'r Tîm Datblygiad Proffesiynol.

Yn Ebrill 2006, symudais at y Tîm Adnoddau Anabledd ar gyfer fy ail leoliad. Yma, cwblheais fy NVQ lefel 2 mewn Gweinyddiaeth Busnes. Yn ystod f'amser gyda'r Tîm Adnoddau Anabledd, roedd fy nyletswyddau'n cynnwys paratoi ffeiliau cleient ar gyfer Therapyddion Galwedigaethol a Swyddogion a Chynghorwyr Anabledd, a mewnbynnu gwasanaethau ar Care.Comm ynghyd â dyletswyddau gweinyddol cyffredinol. Rhoddodd pawb ar y Tîm Adnoddau Anabledd groeso mawr i mi a dysgais lawer ganddynt.

Tra roeddwn gyda'r Tîm Adnoddau Anabledd, dechreuais chwilio am swydd barhaol gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Cefais ychydig o gyfweliadau am amrywiol swyddi, ac yna gwnes gais am swydd Cynorthwy-ydd Gweinyddol gyda'r Tîm Arbenigol Oedolion, ac roeddwn yn llwyddiannus. Gadewais y Cynllun Prentisiaeth Modern a derbyn y swydd barhaol gyda'r Tîm Arbenigol Oedolion. Yn fy rôl bresennol fel Cynorthwy-ydd Gweinyddol, mae fy nyletswyddau’n cynnwys cynnal stoc offer ar gyfer pobl gydag anhwylderau gweld a rhai sy'n drwm eu clyw, archebu offer, paratoi ffeiliau Asesiad Unedig ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol yn y tîm, paratoi ffeiliau client ar gyfer Gweithwyr Cefnogi a Swyddogion Adsefydlu, ynghyd â rhoi cefnogaeth weinyddol gyffredinol i'r holl aelodau staff yn y Tîm Arbenigol Oedolion. Rwyf ar fin dechrau NVQ lefel 2 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid a gobeithiaf gwblhau mwy o gyrsiau NVQ a hyfforddiant yn y dyfodol a chael mwy o brofiad gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae cwblhau'r Brentisiaeth wedi rhoi cyfle i mi weld y meysydd gwaith gwahanol o fewn y Cyngor a chael cyfle i gyfarfod pobl newydd a gweld sut mae timau gwahanol yn gweithio. Rwy'n mwynhau gweithio gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn fawr iawn.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0