| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Amcan 1 - Broses Gais
EU Logo

Mae Amcan 1 yn cael ei weithredu trwy bartneriaethau a strategiau. Bydd gan bob Partneriaeth strategaeth gytunedig am ei faes cyfrifoldeb. Am Sir Ddinbych gweler y Cynllun Gweithredu Lleol.  Mae’r linc yma i wefan allanol sydd ond ar gael yn Saesneg.

Bydd raid cyflwyno prosiectau trwy Bartneriaeth. Bydd y partneriaethau rhanbarthol a lleol yn ystyried y prosiectau sy’n syrthio o fewn naill ai eu hardal ddaearyddol neu eu hardal themataidd. Byddant yn ystyried sut fydd prosiect yn ffitio o fewn eu strategaeth ac a fu’n dyblygu prosiectau eraill sydd wedi’i cymeradwy’n barod neu sy’n cael eu hystyried. Anfonir barn partneriaethau rhanbarthol a lleol at y WEFO.

Mae’r WEFO yn gyfrifol am asesu cymhwyster prosiectau ,ystyried sut maent yn ffitio o fewn strategaethau Cenedlaethol ac eraill, asesu gwerth yr arian ac yna cyflwyno ei farn a hefyd barn partneriaethau lleol a rhanbarthol i’r bartneriaeth strategol.

Mae’r Bartneriaeth Strategol yn ystyried pob prosiect o fewn eu cyfrifoldeb ac yn gwneud argymhellion i’r WEFO am gymeradwyaeth.  Bydd y WEFO yn gyfrifol wedyn am gymeradwyo llythyrau monitro a gwerthuso prosiectau a thalu clientau.  Cliciwch yma am ddisgrifiad manwl am broses wneud cais Cyngor Sir Ddinbych.

Er mwyn cynorthwyo’r broses gais mae Partneriaeth Amcan 1 Cyngor Sir Ddinbych wedi cynhyrchu set o Nodiadau Cais  i gyfeirio atynt wrth wneud cais.

Am wybodaeth bellach am ddogfennau y dylid eu cyfeirio wrth wneud cais am arian Amcan 1, cysylltwch a'r ysgrifenyddiaeth Amcan 1 ar.

Ffon: 01824 708086  Fax: 01824 708088 

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0