Mae Cyngor Sir Ddinbych yn taenu halen i atal rhew rhag ffurfio ar bron i 400 milltir o ffyrdd bob nos os yw rhagfynegiadau’r tywydd yn darogan barrug neu rew. Mae hyn yn hafal i 28% o gyfanswm rhwydwaith ffyrdd y sir.
Darperir rhagfynegiadau tywydd cywir gan y Metro Group sy’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i gynhyrchu’r rhagfynegiadau hyn, yn ogystal â dadansoddi gwybodaeth o synwyryddion tymheredd wedi eu gosod yn y ffordd yn Bodfari a Plymog ger Loggerheads.
Ar wahân i’r gost enfawr byddai’n anymarferol, gan fod rhaid i’r halen a ddefnyddir gael ei wasgu gan draffig i’w wneud yn effeithiol, ac am amrywiol resymau rydym yn taenu’r halen ar y ffyrdd â’r traffig trymaf. Gweler y map amgaeedig.
Yn gyffredinol mae’r gwaith cyn graeanu yn cychwyn am un ai 6pm neu 6am, yn dibynnu ar union adeg y rhew, ac fe’i amserwyd i osgoi adegau traffig brig. Nod ein 12 lori graeanu yw cwblhau eu ffyrdd cyn pen 2.5 awr.
Fodd bynnag, waeth pa mor gywir yw’r rhagfynegiadau tywydd, mae rhai sefyllfaoedd yn codi lle na allwn daenu halen ar y ffyrdd cyn i’r rhew ffurfio:
- Pan fo glaw yn cael ei ddilyn gan yr awyr yn clirio’n gyflym gan amlaf mae’r gwaith graeanu yn cael ei oedi nes bo’r glaw wedi peidio er mwyn osgoi iddo gael ei olchi ymaith.
- Pan fo barrug y wawr yn ffurfio ar ffyrdd sych. Pan fo gwlith ben bore yn disgyn ar ffordd oer ac yn rhewi wrth gyffwrdd y ffordd. Mae’n amhosibl rhagfynegi gyda chywirdeb pryd fydd hyn yn digwydd.
- Eira’n disgyn yn ystod oriau traffig brig. Pan fo glaw yn troi’n eira yn ystod y cyfnod traffig brig ni ellir graeanu ar fyrder gan y byddai’n golchi ymaith ac ni all y lorïau graeanu wneud eu gwaith yn iawn oherwydd prysurdeb y traffig.
Serch hynny, rydym bob amser yn graeanu ac yn defnyddio’r erydr eira i gael gwared o eira a rhew. Nid yw hyn yn ddelfrydol gan fod yr halen yn cymryd mwy o amser i arweithio unwaith y bo rhew wedi ffurfio.


