| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Amcan 1 - Partneriaeth Sir Ddinbych
EU Logo

Cefndir

Ffurfiwyd Partneriaeth Amcan 1 Sir Ddinbych yn ystod hydref 1999 yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus eang yn ystod haf yr un flwyddyn. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys ymgynghoriad y Cynulliad Cenedlaethol ei hun ar y Ddogfen Raglennu Sengl a hefyd cynigion Cyngor Sir Ddinbych i greu partneriaeth leol. Roedd y broses ymgynghori yn rhoi cefnogaeth unfrydol i greu partneriaeth leol.

Pwyllgor Gwaith yn cynnwys 18 aelod â phleidlais (wedi’i seilio ar yr egwyddor o drydedd ran a argymhellir gan y Cynulliad Cenedlaethol) sy’n llywio’r Bartneriaeth. Mae chwe chynrychiolydd o’r sector cyhoeddus; chwe chynrychiolydd o’r sector cymdeithasol (preifat); a chwech o’r sector cymunedol/gwirfoddol. Mae’r Pwyllgor Gwaith yn gweithredu i gymeradwyo ceisiadau project Amcan 1 a gyflwynir i’r bartneriaeth ac i sicrhau bod y prosesau penderfynu yn deg ac yn gynrychioliadol o ddiddordebau amrywiol y cymunedau o fewn Sir Ddinbych.

Mae Grwpiau Tasg yn cynorthwyo’r Pwyllgor Gwaith. Ar hyn o bryd mae tri Grp Tasg yn delio ag adfywio busnesau, cefnogi busnesau a datblygu cymunedau.  Mae cynrychiolaeth eang o sectorau perthnasol ar bob Grp Tasg.  Mae’r rhan fwyaf o aelodau pob grp tasg yn weithredol yn yr ardal sy’n cael ei thrafod naill ai fel cynrychiolwyr asiantaethau neu fel buddiolwyr potensial gweithgareddau rhaglen Amcan 1.  Prif bwrpas y grp yw helpu i ganfod a datblygu projectau sy’n delio ag anghenion economaidd ac ecnomeg gymdeithasol lleol ac i sicrhau bod y ceisiadau a gyflwynir yn cyflawni amcanion lleol.

Mae’r Pwyllgor Gwaith yn derbyn arweiniad pellach gan Grp Technegol sydd â chyfrifoldeb am sicrhau bod ceisiadau project yn cydymffurfio â rheoliadau ariannu’r UE. Mae’r grp hwn yn cynnwys aelodau o fewn y bartneriaeth sydd â sgiliau arbenigol mewn datblygu projectau a gofynion ariannu’r UE.  Mae’r Grp Technegol yn cynnwys yn bennaf aelodau o sefydliadau’r sector cyhoeddus fel y Cyngor Sir, WDA, colegau ac ELWa.

Yr Ysgrifenyddiaeth sy’n hyrwyddo gweithrediadau o fewn Partneriaeth Amcan 1 Leol Sir Ddinbych.  Mae’r tîm Amcan 1 o fewn y Cyngor Sir yn gwneud y gwaith hwn.  Mae’r ysgrifenyddiaeth yn sicrhau: bod y penderfyniadau a wneir yn y gwahanol gyfarfodydd yn cael eu cofnodi; bod papurau’n cael eu dosbarthu mor eang ag sy’n bosibl; bod rhaglen Amcan 1 yn cael ei hybu’n lleol; bod cymorth cynhwysfawr yn cael ei roi i holl noddwyr potensial y project.

Un o flaenoriaethau cyntaf y Bartneriaeth oedd datblygu strategaeth i roi cyfeiriad ar sut y dylid dyrannu adnoddau Amcan 1 o fewn y sir. Mae Cynllun Gweithredu Sir Ddinbych, yn nodi cyfres o brif amcanion. O fewn y rhain, mae annog twf economaidd drwy gynorthwyo busnesau yn benodol yn y sector cynhyrchu sydd â photensial  twf, annog cwmniau newydd i mewn i’r sir, datblygu rhaglenni hyfforddi i gynyddu’r ystod o sgiliau gweithlu ac annog mwy o gyfranogiad gan grwpiau difreintiedig cymdeithasol.

Hyd yn hyn, mae’r Bartneriaeth wedi llwyddo’n sylweddol i ddenu arian yr UE i mewn i’r sir.  Datblygwyd rhaglen gynhwysfawr o brojectau a fydd yn cynorthwyo i wella budd cymdeithasol ac economaidd cymunedau Sir Ddinbych.  Mae hyn yn deyrnged i waith caled pawb a fu’n ymwneud â hyn.

Gellir cysylltu gyda Uned Ewropeaidd Cyngor Sir Ddinbych ar:

Ffon:  01824 708086     Ffacs:  01824 708088

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0