| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Blant 'a Ofelir Amdanynt' - Canllaw i rieni

Blant 'a Ofelir Amdanynt' - Canllaw i rieni

Beth yw cael eich lletya?

Mae cael eich lletya yn golygu y bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu lle i'ch plentyn fyw am fwy na 24 awr. Mae'n gytundeb gwirfoddol rhyngoch chi a'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

Pam fyddai hyn yn digwydd?

Byddai'n digwydd os:

  • Nad oes neb i ofalu am y plentyn;
  • Bydd plentyn wedi ei adael;
  • Na fedr y rhieni ddarparu gofal addas.

Ble fydd fy mhlentyn yn byw?

Mae nifer o opsiynau:

  • Gofalwyr maeth;
  • Gyda pherthnasau neu ffrindiau;
  • Mewn cartref plant;
  • Mewn ysgol breswyl.

A fyddaf yn cael gwybod lle maent yn byw?

Byddwch, rhaid i'r Gwasanaethau Cymdeithasol ddweud wrthych, dan y gyfraith:

  • Ble mae eich plentyn yn byw;
  • Sut maent;
  • Trefniadau addysg;
  • Pam y maent yn derbyn gofal;
  • Am ba hyd y maent yn derbyn gofal.

A fedraf gael cysylltiad â'm plentyn?

Medrwch. Bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud popeth a fedrent i drefnu bod eich plentyn yn cael cysylltiad â chi, os yn briodol, a chydag aelodau eraill eich teulu.

A fedraf fynd  a 'mhlentyn adref os ydwyf yn dewis gwneud hynny?

Cewch, os yw eich plentyn dan 16, medrwch drefnu dyddiad iddynt ddychwelyd adref.

Na, os yw eich plentyn dros 16, mater iddynt hwy yw dewis. Cânt ddychwelyd adref os ydynt eisiau, neu aros ble maent.

Beth sydd yn rhaid i'r Gwasanaethau Cymdeithasol ei wneud?

Rhaid iddynt:

  • Annog cysylltiad rhyngoch chi, eich plentyn a pherthnasau eraill;
  • Wneud popeth a fedrent i'ch helpu chi gael eich plentyn yn ôl adref;
  • Ymgynghori â chi ynglŷn â chynlluniau ar gyfer eich plentyn;
  • Eich hysbysu ynglŷn â lles eich plentyn.

Beth yw fy hawliau i?

Mae gennych hawl i:

  • Chwarae rhan mewn penderfyniadau ynglŷn â'ch plentyn;
  • Gweld eich plentyn;
  • Leisio eich barn;
  • Help i gael eich plentyn adref.
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0