| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Fersiwn symudol | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Gwarchod Plant

Mae gennym ddyletswydd i amddiffyn plant a rhaid gwneud ymholiadau pan honnir unrhyw fath o gamdriniaeth. Gall camdriniaeth ddigwydd ar lawer ffurf, gan gynnwys esgeulustra, achosi niwed corfforol, rhywiol neu emosiynol, a methu â chymryd camau i rwystro niwed. Gall plentyn gael ei niweidio gan rywun y mae'n ei nabod, neu - yn llai aml - gan ddieithryn.

Mae Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan yn diffinio'r categorïau camdriniaeth canlynol:

  • Camdriniaeth gorfforol - Gall gynnwys taro, ysgwyd, llosgi neu sgaldio, gwenwyno yn fwriadol, mygu, neu anafu plentyn yn gorfforol mewn unrhyw ffordd arall;
  • Camdriniaeth emosiynol - Gall olygu dweud wrth blentyn ei fod yn ddi-werth, neu nad oes neb yn ei garu, ei fychanu, achosi iddo deimlo’n ofnus neu ofyn iddo wneud rhywbeth nad yw'n rhesymol o ystyried ei oedran;
  • Camdriniaeth rywiol - Gall gynnwys annog neu hyd yn oed orfodi plentyn i chwarae rhan mewn gweithredoedd rhywiol amhriodol. Gall hyn gynnwys cysylltiad corfforol neu ddangos deunydd pornograffig i blentyn;
  • Esgeulustra - Gall olygu peidio â darparu digon o fwyd, cynhesrwydd, diogelwch, sylw meddygol, addysg neu ysgogiad meddyliol.

I gael mwy o wybodaeth am ein gwasanaethau neu os hoffech gael cymorth gan y Gwansanaeth Plant a Theuluoedd cliciwch yma

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2012 Cyngor Sir Dinbych