Beth ddylwn ei wneud?
Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â lles neu ddiogelwch plentyn, d'wedwch wrthym ni er mwyn i ni fedru gwneud rhywbeth i'w hamddiffyn. Medrwch gysylltu â ni ar y rhifau isod a siarad ag aelod o'r Tîm Cyswllt Cyntaf. Mae ein llinellau ar agor yn ystod yr oriau canlynol:
01824 706648 – Llun - Iau – 8.30 am – 5.00 pm
01824 706648 - Gwener – 8.30 am – 4.30 pm
Ar unrhyw adeg arall, medrwch gysylltu â ni ar 01745 331103
Neu medrwch gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 0845 607 1002, neu'r NSPCC ar 0808 800 5000.
Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn cysylltu â chi?
Byddwch yn siarad ag aelod staff profiadol a fydd yn gofyn i chi roddi cymaint o fanylion ag y bo modd. Mae hyn yn bwysig gan ei fod yn ein helpu i adeiladu darlun cywir, a chymryd penderfyniad ar a yw’r plentyn yn ddiogel ai peidio.. Os ydych yn meddwl bod plentyn yn cael i gam-drin, medrwch ofyn i ni ganfod beth sy'n digwydd mewn gwirionedd, os ydych yn berthynas, cymydog, neu unrhyw un arall gyda phryderon. Dan y gyfraith, rhaid i ni archwilio pob achos a gyflwynir i ni (dan adran 47 Deddf Plant 1989).
Beth sy'n digwydd nesaf?
Pan fyddwn yn derbyn honiad o gamdriniaeth, byddwn yn archwilio ein cofnodion a siarad ag aelodau staff proffesiynol eraill megis athrawon, staff meddygol a'r heddlu i ddysgu mwy. Bydd gweithiwr cymdeithasol wedyn yn ymweld â'r plentyn a'r teulu dan sylw, ac fel rheol byddant eisiau siarad yn uniongyrchol â'r plentyn yr honnir iddo gael ei gam-drin. Byddwn yn dweud wrth y teulu a'r plentyn am y pryderon a godwyd ac yn gofyn am eu barn.
Os bydd sylfaen i'ch pryderon, byddwn yn cymryd camau i amddiffyn y plentyn. Byddwn yn ceisio rhoi help yn y cartref, fel rheol, i wella'r sefyllfa. Trwy gydol unrhyw ymchwiliad, byddwn yn dweud wrth y plentyn a'r teulu am y pryderon, ac unrhyw gamau sydd angen eu cymryd i amddiffyn y plentyn.
A oes yn rhaid i mi rodi fy enw?
Na, nid oes yn rhaid i chi - ond mae'n ein helpu ni os byddwch yn gwneud hynny. Os yw'n well gennych, ni fyddwn yn rhoi eich enw chi i'r plentyn na'u teulu.

Rhoi adborth ar y tudalen hon