Beth yw ymchwiliad amddiffyn plentyn?
Mae ymchwiliad amddiffyn plentyn yn ymchwiliad mwy ffurfiol sy'n digwydd os cadarnheir bod plentyn mewn perygl. Gall gynnwys y canlynol:
Casglu gwybodaeth
Bydd gweithiwr cymdeithasol yn siarad ā staff proffesiynol a phobl sydd eisoes yn gweithio gyda'r teulu megis ymwelydd iechyd, athrawon neu feddyg.
Caniatād gan y rhieni
Byddwn yn gofyn am ganiatād gan y rhieni neu'r gofalwyr (a, lle'n briodol, gan y plentyn) er mwyn cynnal unrhyw archwiliad neu gyfweliad. Yn y rhan fwyaf o achosion rydym yn gwahodd y rhieni neu'r gofalwyr i ddod i'r archwiliad gyda'r plentyn. Os nad yw'r rhieni neu'r gofalwyr yn rhoi caniatād, efallai y byddwn yn gofyn am orchymyn cyfreithiol a fydd yn caniatįu i ni gyfweld, neu archwilio'r plentyn yn feddygol heb ganiatād y rhieni, gan fod gennym ddyletswydd i ystyried diogelwch y plentyn.
Cyfweld plentyn
Medrwn gyfweld plentyn yn y cartref, yr ysgol neu mewn un o'n swyddfeydd. Mae'r gweithwyr cymdeithasol a'r heddweision sy'n siarad ā phlant yn meddu ar sgiliau gwrando ar blant, a'u helpu ymdopi gyda'r cyfweliad. Os ydym yn amau bod trosedd wedi digwydd, efallai y byddwn yn recordio'r cyfweliad ar dāp fidio fel nad oes yn rhaid i'r plentyn ail-fyw'r profiad os aiff yr achos i'r llys. Os teimlir bod unrhyw blant eraill yn y teulu hefyd mewn perygl, byddwn yn eu cyfweld hwy hefyd.
Archwiliad Meddygol
Mewn rhai ymchwiliadau, bydd angen archwilio’r plentyn i chwilio am anghenion iechyd a meddygol sydd efallai wedi eu methu, ac am dystiolaeth bosibl o niwed. Bydd hyn ond yn cael ei wneud os ystyrir bod hyn er budd y plentyn, gan feddyg sydd wedi ei hyfforddi mewn amddiffyn plant.
Troseddau
Os ydym yn amau trosedd, gall yr heddlu restio a chyfweld pobl os amheuir eu bod yn achosi niwed i blentyn
Ar ddiwedd yr ymchwiliad
Byddwn, gyda help y rhieni neu'r gofalwyr, yn ceisio penderfynu os yw’r plentyn mewn perygl ac angen ei amddiffyn. Os oes, byddwn yn ystyried pa gefnogaeth sydd ei angen i gadw'r plentyn yn ddiogel rhag unrhyw niwed. Os teimlir bod angen cynllun eglur i amddiffyn y plentyn, byddwn yn trefnu cynhadledd amddiffyn plentyn.

Rhoi adborth ar y tudalen hon