Beth yw'r gofrestr amddiffyn plant?
Mae hon yn rhestr gyfrinachol o enwau plant sydd wedi bod, neu sydd mewn perygl o gael eu hesgeuluso, neu eu cam-drin yn gorfforol, emosiynol neu'n rhywiol. Rydym yn cadw’r gofrestr, a'r pwrpas yw sicrhau ein bod yn amddiffyn diogelwch a lles y plentyn. Os dodir enw plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant, byddwn yn llunio cynllun amddiffyn plentyn cyn y cyfarfod.
Beth yw'r cynllun amddiffyn plentyn?
Mae'r cynllun amddiffyn plentyn yn amlinellu pa gamau sydd angen eu cymryd i leihau risg niwed i'r plentyn. Byddwn yn cynnal cyfarfod arolygu o leiaf bob 6 mis i ystyried os yw'r plentyn angen amddiffyniad o hyd. Os ydym yn cytuno bod y risg i'r plentyn wedi dod i ben, byddwn yn tynnu eu henw oddi ar y gofrestr amddiffyn plant.
Rydym bob amser yn ceisio cadw'r plentyn gyda'u teulu yn eu cartref eu hunain. Weithiau nid yw hyn yn bosibl, ond anaml y byddwn yn mynd â phlentyn oddi wrth eu teulu. Mewn rhai achosion, gofynnir i'r person yr honnir ei fod yn cam-drin y plentyn symud allan, er mwyn i'r plentyn fedru aros yn y cartref. Os ystyrir bod y plentyn mewn perygl, efallai bod y plentyn a'r teulu angen cefnogaeth o hyd. Mae gennym gyfrifoldeb i ddarparu cefnogaeth i deuluoedd mewn angen. Medrwn ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ymarferol, neu ofyn i asiantaethau eraill helpu’r teulu. Beth bynnag yw canlyniad yr archwiliad, byddwn yn hysbysu'r rhieni a'r gofalwyr ar unwaith, a byddant yn derbyn llythyr yn cadarnhau unrhyw benderfyniad yn y post.

Rhoi adborth ar y tudalen hon