| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Amddiffyn Plant – Canllaw i Blant a Phobl Ifanc

Amddiffyn Plant – Canllaw i Blant a Phobl Ifanc

Beth fyddwch yn ei wneud i'm helpu?

Gwaith gweithiwr cymdeithasol yw eich amddiffyn rhag cael ei brifo neu eich niweidio mewn unrhyw ffordd. Os ydym yn meddwl eich bod yn cael eich niweidio, bydd gweithiwr cymdeithasol yn dod i siarad â chi yn breifat. Byddant yn gwrando arnoch a medrwch gael ffrind, perthynas neu berson arall rydych yn ymddiried ynddynt, i fod gyda chi. Efallai y byddwn yn recordio'r cyfarfod ar fidio fel nad oes angen i chi ail-adrodd yr hyn rydych yn ei ddweud.

Bydd angen i'r gweithiwr cymdeithasol wedyn siarad efo'ch teulu a phobl eraill rydych yn eu nabod, eich athro efallai neu feddyg. Bydd hyn yn gyfrinachol. Ni fydd eich ffrindiau yn cael gwybod unrhyw beth oni fyddwch yn dewis dweud wrthynt.

Beth sy'n digwydd nesaf?
I'n helpu ni benderfynu os ydych mewn unrhyw berygl, rydym weithiau yn cael cyfarfod o'r enw cynhadledd amddiffyn plentyn. Mae'r cyfarfod hwn hefyd yn ein helpu ni i benderfynu beth fedrwn ei wneud i'ch helpu.

Efallai y bydd eich rhieni neu'r person sy'n gofalu amdanoch yn y cyfarfod, ynghyd â'ch athro, meddyg, gweithiwr cymdeithasol a phlismon. Bydd pawb sydd yn y cyfarfod yno i'ch helpu.

Cewch fynd i'r cyfarfod os ydych eisiau. Os ydych yn mynd, mae'n syniad da nodi ar bapur beth rydych eisiau ei ddweud, neu efallai y byddwch yn anghofio. Gall eich gweithiwr cymdeithasol eich helpu i wneud hyn. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn gwneud popeth a fedr i'ch helpu yn y cyfarfod a gall siarad ar eich rhan os dymunwch hynny.

Beth sy'n digwydd yn y cyfarfod?
Bydd pawb yn cael cyfle i siarad. Os yw popeth yn oce, yna ni fydd unrhyw beth arall yn digwydd. Os ydych mewn perygl o gael eich niweidio, byddwn yn ysgrifennu cynllun amddiffyn plentyn ar eich cyfer. Bydd hyn yn dweud wrthych beth sy'n digwydd nesaf.

Y peth pwysicaf yw eich cadw chi'n ddiogel
Byddwn bob amser yn ceisio eich cadw gyda'ch teulu yn eich cartref chi os mai dyma'r hyn rydych ei eisiau. Weithiau nid yw hyn yn bosibl, ond nid ydym yn mynd â phlentyn i ffwrdd o'i deulu yn aml iawn. Mae'n bwysig gadael i'ch gweithiwr cymdeithasol wybod os ydych eisiau aros yn eich cartref, neu os ydych eisiau byw yn rhywle arall.

Beth yw'r gofrestr amddiffyn plant?

Mae'r gofrestr amddiffyn plant yn rhestr o blant sydd wedi neu a fydd efallai yn cael eu brifo gan oedolyn. Rydym i'n cadw’r rhestr a dim ond pobl a fedr eich helpu sy'n edrych arni.
Os ydym yn rhoi eich enw ar y gofrestr amddiffyn plant, bydd mwy o gyfarfodydd i wneud yn siŵr eich bod yn ddiogel. Pan fydd pawb yn sicr eich bod yn ddiogel,, byddwn yn tynnu eich enw oddi ar y gofrestr.

A fedraf gwyno os yw fy enw ar y gofrestr amddiffyn plant?
Medrwch, medrwch ddweud wrth:

  • Aelod o'ch teulu;
  • Eich gofalydd maeth neu weithiwr allweddol;
  • Eich gweithiwr cymdeithasol;
  • Un o'ch athrawon;
  • Oedolyn y medrwch ymddiried ynddo

Lle medraf gael mwy o wybodaeth?
Tîm Cyswllt Cyntaf
64 Ffordd Brighton
Y Rhyl
Sir Ddinbych
LL18 3HP

Ffôn: 01824 712800
Ffacs: 01824 712888


  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0