Gwerthoedd Gwasanaethau Cymdeithasol
- Parchu urddas a gwerth pob unigolyn.
- Ystyried dewisiadau a blaenoriaethau unigolion, pan fo hynny’n bosib.
- Ymddwyn mewn ffordd sy’n gwrthweithio gwahaniaethu.
- Parchu dewis iaith yr unigolion.
- Cyfathrebu mewn ffordd eglur, ddidwyll a gonest.
- Cydnabod cryfderau pobl a’u medrusrwydd.
- Cynorthwyo pobl i gynnal eu lle yn eu cymuned eu hunain, lle bo hynny’n bosib.
- Gwerthfawrogi staff.
- Gweithio mewn partneriaeth ag eraill, yn cynnwys defnyddwyr y gwasanaeth a’u gofalwyr.
Amcanion y Gwasanaethau Cymdeithasol 2005 - 2006
1. Ein nod yw darparu gwasanaethau sy’n cyd-fynd â’r hyn y mae ar bobl eu heisiau a’r hyn y mae arnynt eu hangen.
2. Fe sicrhawn gymaint o arian ag sy’n bosib i Sir Ddinbych a’i ddefnyddio’n ddoeth.
3. Fe fyddwn yn buddsoddi mewn staff.
4. Fe fyddwn ni’n cynllunio ar gyfer y dyfodol.
I’n helpu i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau o ansawdd rydym wedi datblygu 7 o safonau craidd fydd yn mesur y ffordd fyddwn ni’n darparu gwasanaethau.
Cwrteisi a Pharch - Bydd y staff yn trin pawb gyda chwrteisi a pharch.
Cyfrinachedd a phreifatrwydd - Bydd pawb yn derbyn gwasanaeth cyfrinachol ac fe berchir eu hawl i breifatrwydd.
Gwybodaeth - Bydd pawb yn derbyn gwybodaeth lawn a chynhwysfawr sy’n berthnasol i’r gwasanaeth y maent yn ei dderbyn.
Cyfathrebu - Dylai pawb ddisgwyl cyfathrebiad llawn gyda staff y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Ymglymiad a Chyfranogiad - Dylai pawb sy’n derbyn gwasanaethau, a’u gofalwr os oes un ganddyn nhw, fod yn gwbl ymglymedig â thrafodaethau, cynlluniau a phenderfyniadau am y gwasanaethau y maent yn eu derbyn.
Staff - Bydd yr holl staff wedi eu recriwtio, eu hyfforddio a’u cefnogi’n addas.
Amseroedd Ymateb - Bydd yr holl staff yn gweithio i’r amseroedd ymateb sy’n briodol i’w gwasanaeth.
Caiff y safonau eu monitro mewn sawl ffordd. Bydd y rhain yn cynnwys: archwilio ffeiliau gan Adran Sicrhau Ansawdd a Rheolwyr Tîm; ond yn bwysicach – gan y staff yn eu gwaith o ddydd i ddydd.
Mae’r daflen hon yn esbonio sut y bydd y safonau craidd yma’n cael eu cyflawni gan y Tîm Adnoddau Anabledd.
Safon 1. Cwrteisi a Pharch.
Bydd y staff yn trin pawb gyda chwrteisi a pharch.
1. Bydd yr holl staff yn rhoi eu henw, ac enw’r gwasanaeth y maent yn gweithio iddo. Gwneir hyn yn y cysylltiad cyntaf, mewn sgyrsiau ffôn, gohebiaeth ysgrifenedig, e-bost neu mewn cyfarfod.
Monitro: Arolwg defnyddiwr = Holiadur Bodlonrwydd (SA) TAA.
2. Bydd yr holl staff yn cyfarch clientau gyda’u teitl e.e. Mr, Mrs, Dr etc. , oni bai fod y cleient yn gofyn iddyn nhw beidio.
Monitro: Arolwg defnyddwyr = Holiadur Bodlonrwydd (SA) TAA.
3. Bydd yr holl staff yn parchu daliadau crefyddol a diwylliannol y person ac fe gydnabyddir y rhain wrth drefnu gwasanaethau. Yn ogystal, bydd y staff yn derbyn y gall person fod eisiau dyn neu ddynes i ddarparu’r gwasanaeth ac fe ymdrechir i sicrhau hynny.
Monitro: Arolwg defnyddwyr = Holiadur Bodlonrwydd (SA) TAA
4. Bydd y staff yn parchu pob cleient fel unigolyn waeth beth yw eu tarddiad, statws, rhyw, tueddfryd rhywiol, credo a iaith.
Monitro: Arolwg defnyddwyr = Holiadur Bodlonrwydd (SA) TAA.
5. Gwnaiff y staff bob ymdrech i sicrhau eu bod yn cyfathrebu’n uniongyrchol â’r person sydd i dderbyn y gwasanaeth. Er mwyn gwneud penderfyniadau, bydd hyn yn cynnwys penodi eiriolwr pan fo angen. Bydd y staff hefyd yn ystyried barn y gofalwr.
Monitro: Dylai dogfennaeth asesiad adlewyrchu’n fanwl safbwyntiau pawb sy’n gysylltiedig. Archwiliad ffeil blynyddol (SA).
Safon 2. Cyfrinachedd a phreifatrwydd.
Bydd pawb yn derbyn gwasanaeth cyfrinachol a pharchu eu hawl i breifatrwydd.
1. Caiff materion personol eu trin gyda disgresiwn ac ni chânt eu datgelu oni bai fod rheidrwydd cyfreithiol, neu fod angen i’r Gwasanaethau Cymdeithasol weithredu os oes yna fygythiad difrifol i les y cleient neu eraill. Fe rennir gwybodaeth ar sail ‘angen gwybod’ yn unig ac fel rheol gyda chaniatâd y person sy’n derbyn y gwasanaeth neu pan nad yw caniatâd yn bosib gyda chaniatâd eu cynrychiolydd. Os na cheir caniatâd dylid ymgynghori â Rheolwyr Tîm a dylid cofnodi eu penderfyniadau yn ffeil y cleient.
Monitro: Drwy ddulliau gweithredu Cynrychiolaeth a Chwynion (Swyddog Cyfathrebu a Chwynion) ac archwiliad ffeil (SA)
2. Bydd pob gwybodaeth gedwir ar gyfrifiadur yn amodol ar Ddeddf Gwarchod Data 1998.
Monitro: Diogelwch sy’n gynwysedig mewn Rhwydweithiau a Care.comm. Cofrestriad Care.comm (MIS)
3. Dylai unrhyw berson sy’n cyflwyno cwyn fod yn hyderus mai ond y rhai sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r gwyn neu â’r ymchwiliad iddi gaiff wybod y manylion am y gwyn honno.
Monitro: Drwy werthusiad o gwynion dderbynnir (Swyddog Cyfathrebu a Chwynion))
4. Caiff hawl i breifatrwydd ei barchu ac fe ddarperir ystafell breifat os dymunir. (Nodwch nad yw hyn y bosib bob tro, yn enwedig mewn ward ysbyty.)
Monitro: Arolwg defnyddwyr (SA).
5. Dylai staff sydd ynghlwm ag asesu a threfnu gwasanaethau ar gyfer cleientiaid fod yn gwbl annibynnol ar offer darparwyr neu addasiadau. Os bydd unrhyw amheuaeth cyfrifoldeb yr aelod hwnnw o’r staff yw i ddod â’r mater i sylw eu rheolwr fydd yn ystyried y camau priodol.
Monitro: Ffurflenni Datganiad o Ddiddordeb (Rheolwr Tîm) Cofnodion storfeydd offer ddefnyddiwyd gan ddarparwyr fel y gellir monitro tueddiadau (Rheolwr Tîm)
Safon 3. Gwybodaeth.
Dylai pawb dderbyn gwybodaeth lawn a chynhwysfawr berthnasol i’r gwasanaeth y maent yn ei dderbyn.
1. Dylai pawb sy’n cael asesiad fod yn derbyn copi o:
“Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion yn Sir Ddinbych Pwy all derbyn gwasanaethau - Pa safonau i’w disgwyl – Sut i wneud sylwadau neu i gwyno”
Monitro: Arolwg defnyddwyr ac archwiliad ffeil (SA).
2. Dylai unrhyw un sy’n darparu, neu sy’n bwriadu darparu, gofal rheolaidd a sylweddol dderbyn copi o daflen “Help i Ofalwyr” a “Phecyn Gwybodaeth i Ofalwyr”.
Monitro: Arolwg defnyddwyr ac archwiliad ffeil (SA).
3. Bydd y staff yn cynnig cyngor sylfaenol i’r clientau a gwybodaeth am fudd-daliadau lles a lle y gallent gael cyngor mwy manwl (h.y. Uned Hawliau Lles.)
Monitro: Archwiliad ffeil (SA). Caiff cyfeiriadau i Uned Hawliau Lles eu monitro gan yr Uned Hawliau Lles.
4. Cynigir copi o’r asesiad i’r person sy’n cael ei asesu (neu eu cynrychiolydd).
Monitro: Arolwg defnyddwyr (SA).
5. Os bydd person yn dechrau derbyn gwasanaethau dylent ddisgwyl:
copi o’r Cynllun Gofal, fydd yn rhoi crynodeb o’u anghenion, sut y gellir cyflawni’r anghenion hynny, enw’r aelod o staff TAA sy’n gyfrifol; dyddiad yr Adolygiad nesaf, lle bo hynny’n berthnasol.
Monitro: Arolygiad ffeil ac arolygiad o gronfeydd data (SA) TAA Holiadur Bodlonrwydd (SA).
6. Os bydd person yn dewis prynu eu gwasanaethau eu hunain yn annibynnol ar y Gwasanaethau Cymdeithasol cânt:
yr hawl i gael asesiad i benderfynu beth yw eu anghenion;
Cyngor ynglŷn â lle i gael gwybodaeth bellach
Monitro: Holiadur Bodlonrwydd TAA (SA) a thrwy gwynion ddrbyniwyd (Swyddog Cyfathrebu a Chwynion).
7. Bydd staff yn arddangos ac yn rhoi cyfarwyddiadau clir ar sut i ddefnyddio unrhyw offer yn ddiogel.
Monitro: Holiadur Bodlonrwydd TAA (SA).
Safon 4. Cyfathrebu.
Dylai pawb ddisgwyl cyfathrebiad llawn gyda staff y Gwasanaethau Cymdeithasol.
1. Bydd Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ceisio sicrhau fod pobl yn gallu cyfathrebu â’r staff yn eu dewis iaith (ysgrifenedig neu lafar), fydd yn cynnwys o leiaf Gymraeg, Saesneg neu arwyddiaith. Gwneir pob ymdrech i gyfathrebu mewn ieithoedd eraill os gofynnir amdanynt.
Lle bo hynny’n addas fe ymdrechwn i ddarparu offer electronig, e.e. Blychau lleferydd, i’r unigolyn sy’n derbyn y gwasanaeth i sicrhau cyfathrebu llwyddiannus.
Pan fydd gan berson anawsterau darllen, neu nam ar y golwg, cyfathrebir y wybodaeth yn ysgrifenedig mewn ffordd briodol.
Monitro: Bydd sustemau cyfrifiadurol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn monitro ym mha iaith y gofynnwyd am y gwasanaeth (MIS). Sicrheir pa iaith y cyflwynwyd y gwasanaeth ynddi drwy archwiliad ffeil ac arolwg defnyddwyr (SA). Sicrheir addasrwydd dulliau cyfathrebu drwy arolwg defnyddwyr (SA). Holiadur Bodlonrwydd TAA (SA).
2. Bydd y swyddfeydd lleol ym Mhrestatyn a Rhuthun ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 9.00 am a 5.00 pm ac ar ddydd Gwener rhwng 9.00 am a 4.30 pm.
Monitro: Drwy hapwirio (SA).
3. Y tu allan i oriau Swyddfa, ac mewn argyfwng, bydd gweithiwr cymdeithasol o’r Tîm Dyletswydd Argyfwng ar gael i siarad â nhw.
Monitro: Dadansoddiad o’r galwadau i’r Tîm Dyletswydd Argyfwng.
4. Os nad yw’r aelod staff y mae’r defnyddiwr yn dymuno siarad ag o/ â hi ar gael (e.e. yr un sy’n gyfrifol am achos defnyddiwr y gwasanaeth) yna dylid rhoi’r cyfle iddyn nhw siarad â rhywun arall neu adael neges.
Monitro: Arolwg o negeseuon ar ffeil ac arolwg defnyddwyr (SA) = Holiadur Bodlonrwydd TAA (SA).
5. Caiff pobl eu hysbysu os bydd eu haelod staff yn newid.
Monitro: Goruchwyliaeth (TM) ac arolwg defnyddwyr (SA).
Safon 5. Ymglymiad a Chyfranogiad.
Dylai pawb sy’n derbyn gwasanaethau, a’u gofalwr os yn briodol,
fod yn gwbl ymglymedig â thrafodaethau, cynlluniau a phenderfyniadau am y gwasanaethau y maent yn eu derbyn
1. Bydd yr Asesiad a’r Cynllun Gofal yn cael ei roi at ei gilydd gyda’r cleient a’i ofalwr os yn berthnasol. Pan gwblheir y Cynllun Gofal caiff ei esbonio’n llawn.
Monitro: Archwiliad ffeil – samplu’r ffurflen Asesiad a’r Cynllun Gofal i sicrhau eu bod wedi eu llofnodi (SA). Goruchwyliaeth (TM). Arolwg defnyddwyr = TAA Holiadur Bodlonrwydd (SA).
2. Cedwir nifer y bobl sy’n ymglymedig â’r asesiad i leiafswm, a bydd aelod staff y TAA yn sicrhau mai ond y bobl perthnasol sy’n ymglymedig. Efallai y bydd gan y cleient ffrind neu berthynas i’w cefnogi tra’r asesir anghenion eu gofal.
Monitro: Archwiliad ffeil, arolwg defnyddwyr (SA) goruchwyliaeth (TM) a chwynion dderbyniwyd (Swyddog Cyfathrebu a Chwynion).
3. Bydd y person, a’u gofalwr os yn briodol, yn cymryd rhan wrth ddewis pa wasanaethau fydd yn cyflawni’r anghenion aseswyd. Perchir hoffter lle bo hynny’n bosib.
Monitro: Archwiliad ffeil ac arolwg = TAA Holiadur Bodlonrwydd (SA).
4. Caiff gofalwr y person sy’n derbyn y gwasanaethau gynnig asesiad ar wahân. Dylid ceisio a chofnodi barn y gofalwr ar asesiad defnyddiwr y gwasanaeth beth bynnag lle bo hynny’n bosib. Dylid ystyried gallu’r gofalwr i ofalu a dylid rhoi cyngor ac arweiniad e.e. Symud a Thrin.
Monitro:Archwiliad ffeil (SA). Goruchwyliaeth (TM). Arolwg Defnyddiwr/Gofalwr (SA)
5. Gwneir pob ymdrech i sicrhau y caiff nifer aelodau’r tîm sydd ynghlwm â’r achos eu cadw i isafswm.
Monitro: Arolwg defnyddwyr (SA)
6. Gwneir pob ymdrech i sicrhau fod gan ddefnyddwyr y gwasanaeth berthynas bositif â’u aelod staff TAA. Os bydd defnyddiwr y gwasanaeth yn gofyn am newid gweithiwr am unrhyw reswm, bydd y rheolwr llinell yn adolygu’r sefyllfa. Bydd safbwynt defnyddiwr y gwasanaeth yn cael ei ystyried. Os na newidir y gweithiwr, rhoddir rhesymau dros hynny ac fe ymdrechir i geisio sefydlu perthynas bositif.
Monitro: Drwy Oruchwyliaeth (TM) a chwynion dderbyniwyd (Swyddog Cyfathrebu a Chwynion).
7. Bydd pobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth a’u gofalwyr yn cymryd rhan weithredol ym mhroses adolygu / gwerthuso’r cynllun gofal.
Monitro: Archwiliad ffeil – sicrhau fod barn y defnyddiwr a’r gofalwr yn cael eu nodi mewn adolygiadau. (SA)
Safon 6. Staff.
Caiff yr holl staff eu recriwtio, eu hyfforddi a’u cefnogi’n briodol.
1. Mae’n rhaid i’r holl staff gael cerdyn adnabod pan yn ymweld â chleient. Fe’i dangosir ar yr ymweliad / cysylltiad cyntaf ac ar gais droeon eraill. Cyn yr ymweliad cyntaf, gwneir cysylltiad drwy lythyr neu alwad ffôn i drefnu asesiad a hysbysu’r person o enw’r aseswr.
Monitro: Cedwir cofnodion i weld pwy sydd wedi derbyn cerdyn adnabod. Bydd SA yn cysylltu gyda Phersonél i sefydlu fod gan bob aelod o’r staff gerdyn adnabod cyfamserol.
Arolwg defnyddwyr (SA).
2. Bydd gan yr holl staff sy’n ymgymryd ag Asesiadau ac sy’n llunio Cynlluniau Gofal (Cynghorwyr Anabledd, Swyddogion Anabledd) neu sy’n sgrinio ac yn gwerthuso (Cynorthwywyr Anabledd) gymwysterau addas neu byddant wedi derbyn hyfforddiant.
Monitro: Cofnodion Personél archwilir yn flynyddol (Gwasanaethau Archwilio Mewnol).
Cofrestriad gyda Chyngor Gofal Cymru (Personél)
3. Caiff yr holl staff yn y Tîm Adnoddau Anabledd eu goruchwylio’n gyson, o leiaf bob 6 wythnos, ac adolygiad o ddatblygiad staff blynyddol gyda’u rheolwr.
Monitro: Archwiliad blynyddol gomisiynir gan Personél ac a weithredir gan Sicrwydd Ansawdd. (SA).
4. Rhoddir hyfforddiant i sicrhau fod gwybodaeth y staff o safbwynt datblygiad arferion a dulliau gweithredu yn gyfamserol.
Monito: Adroddiad blynyddol gan Adran Datblygiad ac Adolygiad Staff
Safon 7. Amseroedd Ymateb.
Bydd yr holl staff yn gweithio i’r amseroedd ymateb isod.
1. Caiff neges ffôn neu e-bost ymateb o fewn 1 diwrnod gwaith. Os nad yw’r person y mae’r cleient yn dymuno siarad ag o ar gael, cynigir person arall.
Monitro: Arolwg defnyddwyr (SA)
2. Caiff pob gohebiaeth eu hateb o fewn 10 diwrnod gwaith o’i dderbyn. Os nad yw ateb llawn yn bosib dylai’r staff hysbysu’r cleient yn ysgrifenedig.
Monitro: Archwiliad ffeil (SA). Arolwg defnyddwyr (SA).
3. Gwneir cysylltiad o fewn 5 diwrnod gwaith o dderbyn y cyfeiriad (o ba ffynhonnell bynnag) er mwyn trefnu asesiad. Os oes rhestr aros am asesiad fe hysbysir y person o hyn. Mewn argyfwng, er enghraifft, mae bywyd yn cael, neu fe all fod bywyd yn cael ei fygwth; neu bu camdriniaeth neu esgeulustod (hunan neu arall) neu eu bod yn debygol o ddigwydd, ceir ymateb o fewn 1 diwrnod gwaith.
Monitro: Samplu gwybodaeth gyfrifiadurol (MIS) ac archwiliad ffeil (SA).
4. Unwaith y cwblheir asesiad rhoir syniad i’r person o’r graddfa amser sydd ynghlwm wrth drefnu ac ymsefydlu’r gwasanaethau gytunwyd.
Monitro: Arolwg defnyddwyr = TAA Holiadur Bodlonrwydd (SA) TAA .
5. Anfonir cynllun gofal ysgrifenedig at y person sy’n defnyddio’r gwasanaethau a’u gofalwr os yn briodol o fewn 10 diwrnod gwaith i gychwyn y gwasanaeth.
Monitro: Archwiliad ffeil ac arolwg defnyddwyr (SA).
6. Bydd Cynlluniau Gofal sydd angen adolygiad rheolaidd yn cael eu hadolygu o leiaf bob 12 mis neu ynghynt os bydd amgylchiadau’n newid neu os cytunir ar ddyddiad gwahanol. Lle darparwyd offer efallai y trefnir i’w profi yn ôl faint o ddefnydd wneir ohonyn nhw yn hytrach nag yn ôl y dyddiad.
Monitro: Archwiliad ffeil (SA).
7. Dylid derbyn offer sy’n costio llai na £1000 o fewn 3 wythnos i’r asesiad sy’n nodi’r angen.
Monitro: Archwiliad ffeil (SA). Holiadur Bodlonrwydd TAA (SA). Cofnodion Cyfrifiadurol Storfeydd (Rheolwr Storfeydd)
8. Dylai staff sicrhau eu bod yn cyfarfod pobl ar yr amser gytunwyd. Ar gyfer cyfarfodydd swyddfa, os nad yw hyn yn bosib, neu os gohirir yr apwyntiad, dylid hysbysu’r person a gofyn os carent aros neu wneud apwyntiad pellach. Ni ddylid disgwyl i bobl aros yn hirach na 30 munud am apwyntiad.
Ar gyfer ymweliadau cartref dylai staff sicrhau eu bod yn cyfarfod ar yr amser gytunwyd, neu os nad yw hyn yn bosib, o fewn 30 munud. Dylid gwneud galwad ffôn i esbonio’r rheswm am yr oedi lle bo hynny’n bosib.
Monitro: Arolwg defnyddwyr (SA)

Rhoi adborth ar y tudalen hon