Rheolaeth Cofnodion
Rhagymadrodd
Beth yw Rheolaeth Cofnodion?
Gellir diffinio Rheoli Cofnodion fel proses rheoli cofnodion yn drylwyr a'r wybodaeth neu ddata a ddelir ynddynt.
Prif egwyddorion rheolaeth cofnodion effeithiol yw storio cofnodion o bob math mewn ffordd addas, eu bod ar gael yn
rhwydd, nad ydynt yn cael eu cadw am gyfnod hirach nag sydd angen, a'u bod yn cael eu dinistrio'n gywir.
Mae cofnod yn cynnwys gwybodaeth gofnodedig mewn unrhyw fodd a greuwyd new a dderbyniwyd, sydd yn cael ei gadw a'i gynnal gan unigolyn neu unigolion yn rhinwedd eu swydd, ac sydd yn cael ei gadw fel tystiolaeth o'r gwaith yma.
Gall cofnodion fod ar ffurf ffeiliau gohebiaeth, ffurflenni, mapiau, cynlluniau, darluniau, microffilmiau, fideo, ffotograffau, tapiau, e-bost, neu ddogfennau electronig megis taenlenni.
Gwasanaeth Rheolaeth Cofnodion Cyngor Sir Ddinbych
Mae'r Gwasanaeth Rheolaeth Cofnodion wedi bodoli ers dros 30 mlynedd ac mae'n cael ei redeg gan staff hyfforddedig, proffesiynol. Mae'r gwasanaeth yn darparu cyngor a chymorth ar bob agwedd o reolaeth cofnodion o fewn Cyngor Sir Ddinbych, yn ogystal â darparu cadwraeth mewn dull diogel i gofnodion anweithredol mewn stordy
bwrpasol. Rydym yn sicrhau diogelwch y cofnodion, eu bod ar gael yn rhwydd, a'u bod yn cwrdd ag unrhyw ofynion cyfreithiol neu weinyddol.
Rydym nawr yn cynnig y gwasanaeth ardderchog yma, o'r un safon gwasanaeth a gofal cwsmer uchel, i gwsmeriaid allanol am brisiau cystadleuol dros ben. Gallwn gynnig amrywiaeth o wasanaethau, o storio cofnodion yn unigol, i archwiliad manwl o'ch system bresennol.
Am fwy o wybodaeth ynglyn a Rheolaeth Cofnodion cysylltwch a:
Rheolwr Cofnodion
Cyngor Sir Ddinbych
46 Heol Clwyd
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 1HP


Rhoi adborth ar y tudalen hon