Gwerthoedd y Gwasanaethau Cymdeithasol
- parchu urddas a gwerth pob unigolyn
- cymryd dewisiadau a hoffterau unigol i ystyriaeth, bob tro y mae’n bosibl
- ymddwyn mewn ffordd sy’n gwrthweithio gwahaniaethu
- parchu iaith ddewisol unigolion
- cyfathrebu mewn ffordd glir, agored a gonest
- cydnabod cryfderau ac adnoddau eu hunain pobl
- cynorthwyo pobl i gadw eu lle yn eu cymuned eu hunain, bob tro y mae’n bosibl.
- gwerthfawrogi’r staff
- gweithio mewn partneriaeth ag eraill, yn cynnwys defnyddwyr gwasanaethau a’u gofalwyr
Amcanion y Gwasanaethau Cymdeithasol 2004 - 2005
1. Rydym yn amcanu at ddarparu gwasanaethau sy’n cyd-fynd â’r hyn y mae pobl ei eisiau a’r hyn sydd arnynt ei angen.
2. Byddwn yn sicrhau cymaint o arian ag sy’n bosibl i Sir Ddinbych ac yn ei ddefnyddio’n ddoeth.
3. Byddwn yn buddsoddi mewn staff.
4. Byddwn yn cynllunio at y dyfodol.
I’n helpu i sicrhau ein bod yn cyflwyno gwasanaethau o safon rydym wedi datblygu saith safon graidd a fydd yn mesur sut ydym yn cyflwyno gwasanaethau.
Y Safonau Craidd
Cwrteisi a Pharch - Bydd y staff yn trin pawb gyda chwrteisi a pharch.
Cyfrinachedd a Phreifatrwydd - Bydd pawb yn derbyn gwasanaeth cyfrinachol a bydd eu hawl i breifatrwydd yn cael ei barchu.
Gwybodaeth - Bydd pawb yn derbyn gwybodaeth lawn a chynhwysfawr sy’n briodol i’r gwasanaeth y maent yn ei dderbyn.
Cyfathrebu - Dylai pawb ddisgwyl cyfathrebu llawn gyda staff y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cysylltiad a Chyfranogiad - Rhaid i bawb sy’n derbyn gwasanaethau, a’u gofalwyr, os yn berthnasol, fod yn gwbl gyfrannog wrth drafod, cynllunio a gwneud penderfyniadau ynghylch y gwasanaethau a dderbyniant.
Staff - Bydd pob un o’r staff yn cael eu recriwtio, eu hyfforddi a’u cefnogi’n briodol.
Amseroedd Ymateb - Bydd pob un o’r staff yn gweithio i’r amseroedd ymateb sy’n briodol i’w gwasanaeth.
Bydd y safonau’n cael eu monitro mewn nifer o wahanol ffyrdd. Bydd y rhain yn cynnwys:
gwirio ffeiliau gan yr Adain Sicrwydd Ansawdd (SA) a Rheolwyr Tîm (RhT);
arolygon o bobl sy’n defnyddio gwasanaethau;
adroddiadau gan yr Adain Gwybodaeth Rheoli;
ond yn fwyaf pwysig - gan y staff yn eu gwaith o ddydd i ddydd.
Mae’r daflen hon yn egluro sut y bydd y safonau craidd hyn yn cael eu cwrdd gan y Tîm Gwaith Cymdeithasol, Gwasanaethau Iechyd Meddwl.
Safon 1. Cwrteisi a Pharch.
Bydd y staff yn trin pawb gyda chwrteisi a pharch.
1. Bydd pob un o’r staff yn rhoi eu henw, a’r gwasanaeth y maent yn gweithio iddo. Bydd hyn yn berthnasol mewn unrhyw sgwrs ar y ffôn, gohebiaeth ysgrifenedig neu mewn cyfarfod.
Monitro: Arolwg defnyddwyr (SA).
2. Bydd pob un o’r staff yn cyfarch cleientiaid yn ôl eu teitl e.e. Mr, Mrs, Dr ayb. oni bai bod y cleient yn gofyn iddynt beidio.
Monitro: Arolwg defnyddwyr (SA).
3. Bydd pob un o’r staff yn parchu credoau crefyddol a diwylliannol rhywun a bydd y rhain yn cael eu cydnabod pan drefnir gwasanaethau. Yn ogystal, bydd y staff yn parchu y gall rhywun fod eisiau merch neu ddyn i gyflwyno’r gwasanaeth a byddant yn ceisio sicrhau bod yr hyn sydd orau gan rywun yn cael ei gwrdd.
Monitro: Arolwg defnyddwyr (SA).
4. Bydd y staff yn parchu pob cleient fel unigolyn ni waeth be fo eu tarddiad, statws, rhyw, gogwydd rhywiol, credo ac iaith.
Monitro: Arolwg defnyddwyr (SA).
5. Bydd y staff yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cyfathrebu’n uniongyrchol â’r sawl sydd i dderbyn y gwasanaeth. Er mwyn gwneud penderfyniadau, bydd hyn yn cynnwys penodi eiriolwr ble mae angen. Bydd y staff yn cymryd barn y gofalwr a’r teulu i ystyriaeth hefyd.
Monitro: Dylai dogfennau asesu adlewyrchu barn pawb sydd a wnelo â’r peth yn gywir. Archwiliad ffeiliau blynyddol (SA).
Safon 2. Cyfrinachedd.
Bydd pawb yn derbyn gwasanaeth cyfrinachol a chael parchu eu hawl i breifatrwydd.
1. Mae cofnodion integredig yn cael eu dal yn y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol ac yn cael eu rhannu gyda chydweithwyr Iechyd ar sail “yr angen i wybod”. Bydd pethau personol yn cael eu trin gyda disgresiwn ac ni fyddant yn cael eu datgelu gan y Gwasanaethau Cymdeithasol oni bai bod:
- y gyfraith yn ei fynnu
- neu fod angen gweithredu e.e. perygl difrifol i les y cleient neu eraill
Bydd gwybodaeth ond yn cael ei darparu i gyrff eraill sy’n gysylltiedig â phecyn gofal rhywun ar “sail yr angen i wybod” fel arfer gyda chaniatâd yr unigolyn neu ble nad yw caniatâd yn bosibl gyda chaniatâd eu cynrychiolydd.
Bydd yna drefn ar gyfer achosion ble mae angen diystyru caniatâd unigolyn, a fydd yn cynnwys ymgynghori â’r Rheolwr Tîm priodol, gyda’u penderfyniad yn cael ei gofnodi ar ffeil y cleient a’r penderfyniad yn cael ei gyfleu i’r cleient.
Monitro: Drwy weithdrefnau Sylwadau a Chwynion (Swyddog Cyfathrebu a Chwynion) a rhestr wirio goruchwyliaeth (RhT).
2. Dylai unrhyw un sy’n gwneud cwyn fod yn hyderus y bydd manylion eu cwyn ond yn cael eu datgelu wrth y bobl sydd â chysylltiad uniongyrchol â’r gwyn, neu â’r ymchwiliad iddi.
Monitro: Drwy gwynion a dderbyniwyd (Swyddog Cyfathrebu a Chwynion).
3. Bydd hawl rhywun i breifatrwydd yn cael ei barchu a bydd y staff yn cynnig ystafell breifat os gofynnir am hynny. (Sylwch os gwelwch yn dda efallai na fydd hyn bob amser yn bosibl, yn arbennig mewn ward ysbyty.)
Monitro: Arolwg defnyddwyr (SA).
4. Bydd yr holl wybodaeth a ddelir ar gyfrifiadur yn destun y Ddeddf Gwarchod Data 1998.
Monitro: Diogeliad wedi’i ymgorffori mewn Rhwydweithiau a Care.comm. Cofrestru Care.comm (MIS).
5. Dylai staff sy’n ymwneud ag asesu a threfnu gofal ar gyfer cleientiaid fod yn hollol annibynnol ar ddarparwyr gofal. Ble mae unrhyw amheuaeth cyfrifoldeb yr aelod unigol o’r staff yw dod â hynny i sylw eu rheolwr, a fydd yn ystyried camau priodol.
Monitro: Bydd penderfyniadau’n cael eu cofnodi naill ai ar ffeil y cleient neu yn ffeil goruchwyliaeth y staff fel y bo’n briodol (Rheolwyr Tîm) a SA yn cael ei hysbysu drwy restr wirio Goruchwyliaeth fel bod modd monitro tueddiadau (SA).
Safon 3. Gwybodaeth.
Bydd pawb yn derbyn gwybodaeth lawn a chynhwysfawr sy’n briodol i’r gwasanaeth y maent yn ei dderbyn.
1. Dylai pawb sy’n derbyn asesiad dderbyn copi o’r daflen “Gwasanaethau Cymdeithasol i oedolion yn Sir Ddinbych (Pwy sy’n gallu derbyn gwasanaethau - Pa safonau i’w disgwyl - Sut i wneud sylwadau neu gwyno).”
Monitro: Drwy archwiliad ffeiliau ac arolwg defnyddwyr (SA). Yn ogystal, bydd sesiynau goruchwylio gyda’r staff yn gwirio bod dogfennau a roddir allan wedi’u cofnodi ar y Cynllun Gofal (RhT).
2. Bydd y staff yn cynnig cyngor a gwybodaeth sylfaenol i gleientiaid ynghylch budd-daliadau lles a ble gallant gael gwybodaeth mwy manwl.
Monitro: Arolwg defnyddwyr (SA). Bydd cyfeiriadau i Hawliau Lles yn cael eu monitro. (UHLl).
3. Bydd copi o’r asesiad yn cael ei roi i’r sawl sy’n destun yr asesiad, ar gais.
Monitro: Arolwg defnyddwyr (SA).
4. Os yw rhywun yn dechrau derbyn gwasanaeth dylent ddisgwyl:
- copi o’u Cynllun Gofal, a fydd yn rhoi crynodeb o’u hanghenion, a sut y mae eu hanghenion i’w cwrdd
- enw eu gweithiwr cymdeithasol a ble mae’n briodol ddarparwr gwasanaeth
- dyddiad yr Arolwg nesaf
- manylion cysylltu ar gyfer gwasanaethau y tu allan i’r oriau ac mewn argyfwng
- gwybodaeth ynghylch y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, ble mae’n briodol
Monitro: Arolwg defnyddwyr ac archwiliad ffeiliau (SA). Yn ogystal, bydd sesiynau goruchwylio gyda’r staff yn gwirio bod gwybodaeth a dogfennau a roddir allan wedi’u cofnodi ar y Cynllun Gofal (RhT).
5. Dylai pobl hefyd ddisgwyl gwybodaeth ynghylch help a chyngor arall sydd ar gael yn eu cymuned, sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch:
- grwpiau hunangymorth a rhwydweithiau cymunedol
- ble gallant gael at gyngor ynghylch tai a llety
Monitro:Arolwg defnyddwyr (SA). Yn ogystal, bydd sesiynau goruchwylio gyda’r staff yn gwirio bod gwybodaeth a dogfennau a roddir allan wedi’u cofnodi ar y Cynllun Gofal (RhT).
6. Dylai unrhyw un sy’n darparu, neu’n bwriadu darparu, gofal rheolaidd a sylweddol dderbyn copi o’r “Pecyn Gwybodaeth Gofalwyr”.
Monitro: Drwy archwiliad ffeiliau ac arolwg defnyddwyr (SA). Yn ogystal, bydd sesiynau goruchwylio gyda staff yn gwirio bod dogfennau a roddir allan wedi’u cofnodi ar y Cynllun Gofal (RhT).
7. Dylai pawb sy’n meddwl am, neu’n bwriadu symud i Gartref Gofal dderbyn copi o “Cyfeirlyfr Gofal Sir Ddinbych”.
Monitro: Drwy archwiliad ffeiliau ac arolwg defnyddwyr (SA). Yn ogystal, bydd sesiynau goruchwylio gyda’r staff yn gwirio bod dogfennau a roddir allan wedi’u cofnodi ar y Cynllun Gofal (RhT).
8. Os yw rhywun yn dewis prynu eu gwasanaethau eu hunain yn annibynnol ar y Gwasanaethau Cymdeithasol bydd ganddynt:
- yr hawl i gael asesiad wedi’i wneud i benderfynu eu hanghenion,
- rhestr o Ddarparwyr Annibynnol Cymeradwy.
Monitro: Drwy gwynion a dderbyniwyd (Swyddog Cyfathrebu a Chwynion). Yn ogystal, bydd sesiynau goruchwylio gyda’r staff yn gwirio bod dogfennau a roddir allan wedi’u cofnodi ar y Cynllun Gofal (RhT).
Safon 4. Cyfathrebu.
Dylai pawb ddisgwyl cyfathrebu llawn gyda staff y Gwasanaethau Cymdeithasol.
1. Bydd Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol yn amcanu at sicrhau y gall pobl gyfathrebu â’r staff yn yr iaith a ddewisant, fan leiaf bydd hyn yn cynnwys Cymraeg, Saesneg ac iaith Arwyddion. Gwneir pob ymdrech posibl i gyfathrebu mewn ieithoedd eraill os gofynnir.
Monitro: Bydd systemau cyfrifiadurol yn monitro ym mha iaith y gofynnir am y gwasanaeth, ac ym mha iaith y cyflwynir y gwasanaeth. Bydd haparchwiliad yn cael ei gynnal pob blwyddyn. Arolwg defnyddwyr (SA).
2. Bydd rhywun ar gael fel arfer yn ystod oriau agor. Ar yr achlysuron prin nad yw hyn yn bosibl bydd gwasanaeth ffôn ateb ar gael.
Monitro: Bydd hapwiriadau’n cael eu gwneud ac arolwg defnyddwyr (SA).
3. Y tu allan i oriau Swyddfa, ac mewn argyfwng, bydd gweithiwr cymdeithasol ar gael o’r Tîm Dyletswydd Argyfwng i siarad â hwy.
Monitro: Dadansoddiad o’r galwadau i’r Tîm Dyletswydd Argyfwng.
4. Os nad yw’r aelod o’r staff y mae’r cleient yn dymuno siarad ag ef neu hi ar gael, yna dylid cynnig y cyfle iddynt siarad â rhywun arall.
Monitro: Drwy archwiliad o’r llyfr dyletswydd ac arolwg defnyddwyr (SA).
5. Mae’r swyddfeydd lleol ar agor o ddydd Llun tan ddydd Iau rhwng 9.00 am a 5.00 pm ac ar ddydd Gwener 9.00 am a 4.30 pm.
Monitro: Bydd hapwiriad yn cael ei wneud (SA).
6. Ble mae gan rywun anawsterau darllen, bydd gwybodaeth ysgrifenedig yn cael ei chyfleu mewn ffordd addas.
Monitro: Archwiliad Rheoli Gwybodaeth (Tîm Archwiliad Cyfoedion).
7. Byddir yn gadael i bobl wybod am unrhyw newidiadau sy’n effeithio yn ei hanfod ar eu gofal.
Monitro: Rhestr Wirio Goruchwyliaeth (RhT) ac arolwg defnyddwyr (SA).
Safon 5. Cysylltiad a Chyfranogiad.
Dylai pawb sy’n derbyn gwasanaethau, a’u gofalwyr, os yn berthnasol, fod yn gwbl gyfrannog wrth drafod, cynllunio a gwneud penderfyniadau ynghylch y gwasanaethau a dderbyniant.
1. Bydd yr Asesiad a’r Cynllun Gofal yn cael eu rhoi at ei gilydd gyda’r cleient a’u gofalwr os yn berthnasol. Pan fydd y Cynllun Gofal wedi’i gwblhau bydd yn cael ei egluro’n llawn.
Monitro: Drwy samplu’r Ffurflen Asesu a’r Cynllun Gofal i sicrhau eu bod wedi’u harwyddo (Rheolwr Tîm). Arolwg defnyddwyr (SA).
2. Bydd nifer y bobl sy’n gyfrannog yn yr asesiad yn cael ei gadw cyn ised â phosibl, a bydd y gweithiwr cymdeithasol yn sicrhau mai dim ond pobl berthnasol sy’n gyfrannog. Gall y cleient fod â ffrind neu berthynas yn gyfrannog i’w cefnogi tra bydd anghenion gofal yn cael eu hasesu.
Monitro: Drwy restr wirio Goruchwyliaeth (Rheolwr Tîm), cwynion a dderbyniwyd (Swyddog Cyfathrebu a Chwynion) ac arolwg defnyddwyr (SA).
3. Os nad yw rhywun yn fodlon ar eu hasesiad gallant ofyn iddo gael ei ailystyried.
Monitro: Drwy’r Drefn Sylwadau a Chwynion (Swyddog Cyfathrebu a Chwynion).
4. Bydd yr unigolyn, a’i ofalwr os yn berthnasol, yn cymryd rhan wrth ddewis gwasanaethau i gwrdd â’r anghenion a aseswyd. Bydd yr hyn sydd orau ganddo yn cael ei barchu ble mae’n bosibl.
Monitro: Bydd y Rheolwr Tîm priodol yn monitro drwy’r asesiad a’r Cynllun Gofal (rhestr wirio Goruchwyliaeth), bydd yn cael ei brofi hefyd drwy arolwg ac archwiliad ffeiliau (SA).
5. Bydd gofalwr y sawl sy’n derbyn y gwasanaethau yn cael cynnig asesiad ar wahân. Os nad yw’r gofalwr eisiau asesiad ar wahân yna dylai hyn gael ei gofnodi a dylid dal i ofyn am farn y gofalwr a’i gofnodi ble mae’n bosibl.
Monitro: Rhestr wirio Goruchwyliaeth (RhT) archwiliad ffeiliau (SA), amgyffrediad defnyddwyr a gofalwyr drwy arolwg (SA).
6. Bydd disgwyl y bydd y sawl sy’n defnyddio gwasanaethau a’i ofalwr os yn berthnasol, yn trafod ar y cyd gyda’r gweithiwr allweddol pryd y dylai’r Arolwg nesaf ddigwydd.
Monitro: Samplu blynyddol ar Ffurflenni Arolwg a Chynlluniau Gofal i sicrhau eu bod wedi’u harwyddo (SA). Arolwg defnyddwyr (SA).
7. Bydd pobl sy’n defnyddio gwasanaethau a’u gofalwyr yn gyfrannog yn weithredol wrth adolygu’r cynllun gofal.
Monitro: Drwy ddogfennau ffeiliau achosion i wirio bod barn defnyddwyr a gofalwyr wedi’u nodi mewn arolygon. Rhestr wirio goruchwyliaeth (RhT). Archwiliad ffeiliau (SA).
8. Byddir yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr un Gweithiwr Cymdeithasol sy’n gyfrifol am ofal rhywun yn aros yr un dros amser.
Monitro: Samplu blynyddol ar ddogfennau cyfrifiadurol (MIS). Arolwg defnyddwyr (SA).
9. Byddir yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod gan gleientiaid berthynas gadarnhaol gyda’u gweithiwr cymdeithasol. Os, am unrhyw reswm, y bydd y cleient yn gofyn am newid gweithiwr cymdeithasol bydd y rheolwr llinell yn adolygu’r sefyllfa. Bydd barn y cleientiaid yn cael ei chymryd i ystyriaeth. Os na chaiff y gweithiwr cymdeithasol ei newid, bydd rhesymau’n cael eu rhoi paham a bydd cynllun yn cael ei ddatblygu i sefydlu perthynas gadarnhaol.
Monitro: Rhestr wirio goruchwyliaeth (RhT) a chwynion a dderbyniwyd (Swyddog Cyfathrebu a Chwynion).
Safon 6. Staff.
Bydd pob un o’r staff yn cael eu recriwtio, eu hyfforddi a’u cefnogi’n briodol.
1. Bydd pob un o’r staff yn dal, ac yn cyflwyno cerdyn adnabod cyfredol ar gais. Bydd y staff yn cyflwyno cerdyn adnabod y tro cyntaf y maent yn ymweld â chleient ac eto ar gais.
Monitro: Byddir yn cadw cofnodion i weld pwy sydd wedi derbyn cerdyn adnabod (Personél). Bydd SA yn gwirio gyda Phersonél fod gan bob un o’r staff gerdyn adnabod cyfredol. Arolwg defnyddwyr (SA).
2. Bydd gan bob un o’r staff y cymwysterau a’r / neu’r profiad angenrheidiol sy’n berthnasol i’r gorchwyl y maent yn ymgymryd ag ef.
Monitro: Bydd cofnodion yn cael eu cadw a’u hadolygu fel y bo’n briodol (Personél a Datblygu Staff). Cofnodion personél yn cael eu harchwilio’n flynyddol (Gwasanaeth Archwilio Mewnol). Rhestr Wirio Goruchwyliaeth (RhT). Cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru (Personél).
3. Bydd pob un o’r staff yn cael cefnogaeth a hyfforddiant rheolaidd. Byddir yn rhoi hyfforddiant i’r staff i sicrhau bod y staff yn cael gwybod yr wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â datblygu arferion a gweithdrefnau.
Monitro: Bydd cofnodion yn cael eu cadw a’u hadolygu fel y bo’n briodol. (Personél a Datblygu Staff). Adroddiad blynyddol yn cael ei gynhyrchu (Datblygu Staff).
4. Bydd pob un o’r staff sy’n gwneud Asesiadau neu’n llunio Cynlluniau Gofal yn dal cymhwyster mewn Gwaith Cymdeithasol.
Monitro: Cofnodion Personél a rhestr wirio Goruchwyliaeth (RhT) a chofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru (Personél).
5. Bydd pob un o’r staff yn cael sesiynau goruchwylio rheolaidd ac arolwg datblygu staff blynyddol gyda’u rheolwr.
Monitro: Archwiliad blynyddol wedi’i gomisiynu gan Bersonél yn cael ei wneud gan Sicrwydd Ansawdd (SA).
Safon 7. Amseroedd Ymateb.
Bydd pob un o’r staff yn gweithio i’r amseroedd ymateb a ddangosir isod.
1. Bydd neges ffôn yn derbyn ymateb o fewn 1 diwrnod gwaith. Os nad yw’r sawl y mae’r cleient yn dymuno siarad â hwy ar gael, bydd rhywun arall yn cael ei gynnig.
Monitro: Archwiliad ffeiliau, Llyfr Negeseuon, Llyfr Dyletswydd (SA). Arolwg defnyddwyr (SA)
2. Bydd pob gohebiaeth yn cael ei hateb o fewn 15 diwrnod gwaith i’w derbyn. Os nad yw ateb llawn yn bosibl dylai’r staff hysbysu’r cleient yn ysgrifenedig.
Monitro: Arolwg defnyddwyr ac archwiliad ffeiliau (SA).
3. Byddir yn cysylltu o fewn 5 diwrnod gwaith i dderbyn cyfeiriad er mwyn trefnu asesiad. Mewn argyfwng bydd hyn yn i diwrnod gwaith.
Monitro: Archwiliad ffeiliau ac archwiliad Llyfr Cyfeiriadau (SA).
4. Byddir yn dweud wrth bobl pa mor hir y gallant ddisgwyl i’w hasesiad gymryd (bydd hyn yn dibynnu ar eu hanghenion).
Monitro: Arolwg defnyddwyr (SA).
5. Bydd gwasanaethau’n dechrau o fewn y raddfa amser a gytunwyd gyda’r sawl sy’n defnyddio’r gwasanaethau a’u gofalwr, os yn berthnasol.
Monitro: Arolwg defnyddwyr (SA).
6. Bydd cynllun gofal ysgrifenedig yn cael ei roi i’r sawl sy’n defnyddio’r gwasanaethau a’u gofalwr os yn berthnasol, o fewn 10 diwrnod gwaith i gwblhau asesiad sy’n arwain at gynllun gofal.
Monitro: Archwiliad ffeiliau ac arolwg defnyddwyr (SA).
7. Bydd Cynlluniau Gofal yn cael eu hadolygu pob deuddeng mis neu’n gynt:
- os yw amgylchiadau’n newid;
- neu y cytunir dyddiad gwahanol.
Monitro: Archwiliad ffeiliau (SA).
8. Dylai staff sicrhau eu bod yn cyfarfod pobl ar yr amser a gytunwyd. Gyda chyfarfodydd yn y swyddfa, os nad yw hyn yn bosibl, neu os yw’r apwyntiad wedi’i ddal yn ôl, dylid hysbysu’r unigolyn o hyn a gofyn a yw’n dymuno aros neu wneud apwyntiad pellach. Ni ddylid disgwyl i bobl aros mwy na 30 munud am apwyntiad.
Gydag ymweliadau cartref dylai’r staff sicrhau eu bod yn cyfarfod ar yr amser a gytunwyd, neu os nad yw hyn yn bosibl, o fewn 30 munud. Dylid ffonio i egluro’r rheswm dros yr oedi, ble mae’n bosibl.
Monitro: Arolwg defnyddwyr (SA).



Rhoi adborth ar y tudalen hon