Cyfanswm y gost: £288,000 - Grant UE: £84,000
RALI (Rhuthun a Llangollen, Yes) gweithio mewn partneriaeth gyda Chynghorau Tref a Chymdeithasau Busnes/Menter yn Rhuthun a Llangollen.
Amcan y project yw rhwystro’r dirywiad economaidd yn Rhuthun a Llangollen, dwy gymuned sydd yn y gorffennol wedi dioddef o berifferoldeb a than-hyrwyddiad o'r hyn sydd ganddynt i'w gynnig. Bydd yn pwysleisio manteision cefnogi busnesau lleol ac annog canfod ffynonellau cynnyrch lleol trwy farchnadoedd, digwyddiadau ac ymgyrchoedd. Penodwyd pencampwr busnes ym mhob cymuned, gyda'r rôl o gynorthwyo partneriaethau i ymgymryd ag ymchwil i'r farchnad, gweithredu gweithgareddau hyrwyddo, darparu offer i gynhyrchu llenyddiaeth ategol o safon uchel a gweithio i ddileu rhwystrau i dwf economaidd.
Hyd yma, mae RALI wedi cynorthwyo busnesau bychain lleol yn uniongyrchol, i ymgymryd ag ymchwil marchnad dwys i'w cynhyrchion ac mae'n annog y busnesau hynny i fuddsoddi mewn gweithgareddau marchnata ehangach nag y byddent wedi ei wneud fel arall. Gyda chefnogaeth arbenigol, maent wedi cael hyder yn eu hyrwyddiadau a'r gwaith marchnata a dargedir.
Cefnogwyd digwyddiadau allweddol a bydd y rhain yn parhau i gael eu cefnogi os ydynt yn dod â manteision gwirioneddol i'r trefi marchnad naill ai trwy gynyddu nifer ymwelwyr neu wella hyrwyddiad yr hyn sydd gan y trefi i'w gynnig mewn sectorau sydd, efallai, wedi eu hanwybyddu yn y gorffennol. Yn benodol, mae swyddog RALI Llangollen yn ystyried y cyfleoedd marchnad Cyfeillgar i'r Teulu ar gyfer y dref fel arf marchnata arbenigol.
Cafwyd cefnogaeth dda i sefydliad Marchnad Cynhyrchwyr Rhuthun, a gynhelir ar Sadwrn olaf y mis (ac eithrio ym mis Tachwedd, Ionawr, Chwefror a Mawrth) ac mae'n broject allweddol ar gyfer hybu cynhyrchion lleol ac annog canfod ffynonellau lleol. Fe'i cynhelir ar glos Carchar Rhuthun sy'n gwbl hygyrch ac sy'n lleoliad o safon yn y dref.
Er enghraifft, bydd Rhuthun yn cynnal project Drysau Agored ym Medi 2006, sy'n broject Treftadaeth Trefwedd gyda'r amcan o bwysleisio amrywiaeth ac ansawdd uchel y dreftadaeth adeiledig yn y dref. Caiff ei gynnal dros benwythnos yng nghanol mis Medi, sy'n gyfnod tawel yn draddodiadol i drefi marchnad bychain, ac mae'n cynyddu nifer ymwelwyr na fyddai'n ymweld fel arfer, efallai. Mae'n hanfodol bod caffis bach, tafarndai a gwestai yn ymwybodol o fanteision y project a'u bod ar agor ac yn barod i elwa ohono.
Yn Llangollen, mae RALI wedi medru cynorthwyo gyda digwyddiad Ymylon 2006, sy'n seiliedig ar ganol y dref a'r Rali Astra, Sioe Arddio a Gŵyl Balwnau, pob un o'r rhain a gynhelir ym Mhafiliwn Brenhinol Rhyngwladol Llangollen, ac sy'n denu pobl o ardal eang iawn am benwythnosau, sy'n fanteisiol i ddarparwyr llety, atyniadau a bwytai/bariau. Fel gwerth ychwanegol, mae'r holl ddigwyddiadau hyn yn buddsoddi mewn hyrwyddo a hysbysebu, sy'n fanteisio i Langollen y tu hwnt i oes y digwyddiad ei hunan.
Gan weithio'n agos gyda busnesau, yn Rhuthun yn arbennig, mae cynllun Gwarchod Busnes newydd wedi ei gefnogi i gynyddu ymwybyddiaeth o ddiogelwch personol, lladrad a fandaliaeth yn y parciau busnes ar ymylon y dref. Mae Lon Parcwr yn barc busnes llwyddiannus sydd wedi datblygu brand Gwarchod Busnes ac mae hwn yn weladwy ar eiddo busnes a cholofnau lampau i gynyddu ymwybyddiaeth bod busnesau'n gweithio gyda'i gilydd a'r heddlu yn lleol i adrodd am ymddygiad amheus neu fandaliaeth.
Bydd projectau yn y dyfodol yn ystyried ymwybyddiaeth amgylcheddol yn y gymuned leol ac ymhlith ymwelwyr. Gellid cychwyn hyn gyda strategaeth i ddarparu pwyntiau ailgylchu mewn digwyddiadau ynghyd â gwybodaeth ar sut a ble i ailgylchu'n gyffredinol.

Rhoi adborth ar y tudalen hon