GLYWSOCH CHI?
Mae Cyngor Sir Ddinbych, hefo nifer o asiantau cyhoeddus a gwirfoddol eraill, wedi cytuno ar weledigaeth i adfywio'r Rhyl.
Erbyn 2015, bydd y Rhyl yn ceisio bod yn lle dymunol i fwy a gweithio yno - yn dref hefo cymuned gytbwys, barhaol, sefydlog ac yn creu economi leol gynaliadwy a ffyniannus.
BETH SY’N DIGWYDD NAWR?
Mae £5.8 miliwn o arian ar gael I adfywio a gwella'r prom a Harbwr y Foryd, ac ar gyfer adfer eiddo sydd wedi mynd â'i ben iddo ar Stryd Edward Henry.
Bydd y Cynllun Townscape yn adfywio rhai o adeiladau hynaf y Rhyl megis The George, Dixie Deans a 17 Stryd Bedford.
Rhoddwyd arian gan Asiantaeth Datblygu Cymru ar gyfer 71-75 West Parade, Dudley Arms, a chyn westy'r Marina ar East Parade. Cyllid o'r sector breifat o fewn sector manwerthu'r Rhyl I adeiladu siopau Wilkinsons a Peacocks.
Arian Undeb Ewropeaidd gwerth £1.8 miliwn ar gyfer prosiect Cefndy Economic Dynamo Project. £0.7 miliwn ar gyfer Digital Village Hall for Women, £400,000 ar gyfer prosiect FFORCE Community Enterprise, a llawer iawn mwy, gan gynnwys arian allweddol Sir Ddinbych I brosiectau cymunedol megis prosiect Shopmobility y Rhyl.
BETH NESA’?
Mae'r Cyngor Sir yn awyddus I gynnwys pob rhan o gymuned y Rhyl a rhoi gwybodaeth i bawb gan ymchwilio i brosiectau eraill fel rhan o'r Rhyl yn Symud Ymlaen.
Mae Cymuned Fusnes Y Rhyl wedi dod ynghyd a ffurfio Grwp Busnes Y Rhyl.
Bydd cynnwys yr ymgynghoriad hwn hefo pobl leol yn cael ei gynnwys mewn prosiect newydd, Y Rhyl yn Symud Ymlaen.
Manylion Cyswllt: Swyddog Y Rhyl yn Symud Ymlaen - 01824 708017

Rhoi adborth ar y tudalen hon