| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sylwadau, Canmoliaeth a Chwynion - Oedolion
Gwasanaethau Oedolion

Sylwadau, Canmoliaeth a Chwynion - Oedolion

Byddem yn hoffi clywed eich barn

Yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych, rydym wedi ymrwymo i wrando ar farn y bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau.

Efallai eich bod eisiau:

  1. gwneud sylw ar neu ofyn cwestiynau am ein gwasanaethau, neu awgrymu  ffyrdd y gallem wneud pethau yn well;
  2. canmol aelod o’r staff sydd wedi eich helpu chi; neu
  3. gwneud cwyn.

Dywedwch wrthym beth ydych yn ei feddwl

Os byddech chi’n hoffi canmol, wyno am neu wneud sylw ar unrhyw un o’r  gwasanaethau yr ydym yn eu darparu, gellwch:

  • gysylltu â’r person yn y gwasanaethau cymdeithasol yr ydych yn ei adnabod orau neu yr ydych yn teimlo’n fwyaf cysurus â nhw;
  • cysylltu â’r swyddog cyfathrebu a chwynion (manylion ar y dudalen nesaf); neu
  • lenwi’r ffurflen yng nghanol y daflen hon a’I dychwelyd i’r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen (mae’r tâl post wedi’i dalu’n barod).

Gellwch chi ofyn i ffrind, perthynas, cymydog neu fudiad gwirfoddol eich helpu chi gyda hyn os dymunwch. Gallwn hefyd roi manylion mudiadau sy’n gallu eich helpu ichi.

Sut i gysylltu â ni

Swyddog Cwynion,
64 Ffordd Brighton,
Y Rhyl, Sir Ddinbych, LL18 3HP.
Ffon: 0800 032 1099
Ffacs: 01824 712888

Ffontext: 07917174038

Sylwadau

Rydym yn croesawu eich sylwadau am eu bod yn rhoi cyfle inni edrych o’r newydd ar y gwasanaethau a ddarperir gennym. Mae angen inni wybod beth ydych yn ei feddwl o’n gwasanaethau. Bydd eich sylwadau, boed dda neu ddrwg, yn ein helpu i wybod sut i newid pethau er gwell a chynllunio at y dyfodol.

Canmoliaeth

Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda pan fyddwch yn meddwl ein bod wedi gwneud yn dda. Bydd hynny’n ein helpu wrth geisio gwneud yn siˆ wr y gellir darparu safon y gwasanaeth yr ydych chi wedi’I derbyn i bobl eraill yn y dyfodol.

Cwynion

Rydym yn amcanu at gynnig gwasanaeth effeithlon, o ansawdd da, ond rydym yn cydnabod bod pethau’n gallu mynd o chwith weithiau. Rydym yn amcanu at unioni camgymeriadau yn gyflym ac mor foddhaol â phosibl.

Mae gennych yr hawl i ddweud wrthym os oes rhywbeth o’i le. Ni fyddwn ni’n trin neb yn anffafriol os byddant yn gwneud cwyn. Ni fyddwn yn mynd â’ch gwasanaethau oddi arnoch ac ni fyddant yn cael eu heffeithio o ganlyniad i wneud cwyn.  Bydd eich cwyn yn cael ei thrin yn gyfrinachol, yn drylwyr ac o ddifrif. 

Beth sy’n digwydd os byddaf yn gwneud cwyn?

Cam 1 – Datrys yn lleol

Pan fyddwch chi’n gwneud cwyn, eglurwch beth yw’r pryderon sydd gennych os gwelwch yn dda a beth yr hoffech inni ei wneud i’w hunioni. Byddwn yn cofnodi eich cwyn ac yn gofyn i’r rheolwr sy’n gyfrifol am y gwasanaeth edrych yn fanwl arni.

Bydd y rheolwr yn:

  • cysylltu â chi ynghylch eich cwyn i gael gwybod mwy;
  • siarad ag aelodau o’r staff sydd wedi bod a wnelont â darparu gwasanaethau ichi;
  • edrych ar beth sydd wedi digwydd a cheisio unioni pethau; ac
  • yn ysgrifennu atoch i egluro beth y maent wedi’I ganfod a beth fyddant yn ei wneud. Dylai hyn fod o fewn 10 diwrnod gwaith (os bydd rhaid inni ymestyn yr amser yma, fe wnawn ni roi gwybod ichi y rheswm am hyn a gofyn am eich cytundeb).

Nid oes raid ichi ddefnyddio cam 1 os nad ydych yn dymuno. Os yw’n well gennych, gellir ymchwilio i’ch cwyn yng ngham 2 yn syth bin.

Cam 2 – Ystyried yn ffurfiol

Os ydych yn teimlo nad yw eich cwyn wedi’i datrys yn dilyn cam 1, rhowch wybod inni os gwelwch yn dda. Wedi hynny, byddwn yn gofyn i rywun nad yw’n gweithio i’r gwasanaeth yr ydych yn cwyno yn ei gylch ymchwilio i’ch cwyn. Bydd y person yma yn:

  • cyfarfod â chi i gael gwybod mwy; 
  • siarad ag aelodau o’r staff sydd wedi bod a wnelont â darparu gwasanaethau ichi; ac
  • ysgrifennu adroddiad ac yn ei anfon at bennaeth y gwasanaeth.

Bydd pennaeth y gwasanaeth yn ysgrifennu atoch ac yn cynnwys copi o’r adroddiad. Dylai hyn fod o fewn 25 diwrnod gwaith (os bydd rhaid inni ymestyn yr amser yma, fe wnawn ni roi gwybod ichi y rheswm am hyn a gofyn am eich cytundeb).

Cam 3 – Panel annibynnol

Os ydych chi’n teimlo nad yw eich cwyn wedi’I datrys yn dilyn cam 2, gellwch ofyn i’ch cwyn gael ei gwrando gan banel annibynnol. Bydd y panel wedi’i ffurfio o gadeirydd, un aelod gyda chefndir yn y gwasanaethau cymdeithasol ac un aelod sydd heb gefndir yn y gwasanaethau cymdeithasol. Bydd pob un o’r tri yn gyfan gwbl annibynnol ar Wasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych. Byddant yn dod o restr o bobl sydd wedi’u recriwtio a’u hyfforddi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn dilyn gwrandawiad panel, bydd adroddiad yn cael ei
gynhyrchu a rhaid iddo fod ar gael o fewn 5 diwrnod gwaith. Yna bydd ein cyfarwyddwr yn ymateb i’r adroddiad ac yn anfon copi o’r adroddiad ac ymateb yr adran atoch. Dylai hyn fod o fewn 15 diwrnod gwaith.

Os ydych ag eisiau i banel annibynnol ddelio â’ch cwyn, rhaid ichi ddweud wrth ysgrifenyddiaeth y panel annibynnol o fewn 20 diwrnod gwaith I dderbyn ymateb yr adran yng ngham 2. Byddwn yn egluro sut i wneud hyn. 

Beth os yw fy nghwyn dal heb fod wedi’I datrys?

Os ydych ar unrhyw adeg yn anfodlon gyda'r ffordd rydym wedi ddelio a'ch cwyn, medrwch gysylltu ag un o'r canlynol.

  1. Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
    1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ. 
    Ffon: 01656 641150, Ffacs: 01656641199
  2. Eich Cynghorydd neu’ch AS lleol (fe ddewch o hyd i’r manylion i gysylltu â nhw mewn llyfrgelloedd lleol)
  3. Cyngor ar Bopeth neu fudiadau gwirfoddol eraill

Os nad ydych yn deall unrhyw ran o’r wybodaeth yn y daflen yma, neu os hoffech gael gwybod mwy, a wnewch chi gysylltu â’r swyddog cwynion os gwelwch yn dda.

Os hoffech chi unrhyw ran o’n gwybodaeth mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg, rhowch wybod inni os gwelwch yn dda.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0