Bu Sustrans yn llwyddiannus yn eu cais Loteri am £50m i greu cyswllt beiciau / cerddwyr mewn 79 lleoliad gwahanol yn y DU. Mae pont Harbwr y Foryd yn un o'r 79 lleoliad ac mae Sustrans wedi clustnodi £450k ar gyfer y linc bwysig i'r Llwybr Beicio Cenedlaethol rhif 5 rhwng Bae Kinmel, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a'r Rhyl, Cyngor Sir Ddinbych.
Gwnaed astudiaeth dichonolrwydd i benderfynu ble yw'r lle gorau i'r bont ar ddwy ochr yr afon Clwyd, materion cynhaliaeth a chostau adeiladu a chynhaliaeth. Cwblhawyd hyn yn gynnar ym mis Ebrill 2008 ar sail astudiaeth Sustrans. Mae Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cynulliad Cymru (DE&T) yn paratoi briff posibl i ddylunio pont eiconig i'r lleoliad pwysig hwn. Bydd adran beiriannol pontydd Cyngor Sir Ddinbych yn arwain ar y gwaith yma.
Bydd y gwir gynllun angen cael ei brisio i ffurfio sail i'r ceisiadau am ariannu.
I gynorthwyo hefo'r gwaith ymchwil angenrheidiol mae Cyngor Sir Ddinbych wedi comisiynu tyllu ar naill ochr y foryd ac yn y foryd, i ddarganfod daeareg yr ardal a mannau glanio addas.
Gwneir hyn mewn ymgynghoriad hefo Bae Kinmel a Chyngor Tref Towyn, Cyngor Tref y Rhyl, Sustrans, Llywodraeth Cynulliad Cymru a datblygwyr preifat, Modus Properties Ltd, yn gweithio ar hen safle ffair y Rhyl lle byddai'r bont yn debygol o orffen.
Isod mae syniad cyfrifiadurol o sut un fydd y bont.

Rhoi adborth ar y tudalen hon