Rheoli Llygredd Awyr
Mae’r geiriau 'llygredd awyr' yn creu darluniau o Fwrllwch Llundain cyn y 1950'au ac o gyfadeiladau cynhyrchu cemegol mawrion. Fodd bynnag, nid ydy pob llygredd awyr y mae gennym gysylltiad ag ef mor amlwg. Mae tanau glo sy’n creu mwrllwch yn brin erbyn hyn ac yn absenoldeb diwydiant trwm lleol, mae’n hymdrechion yn cael eu canolbwyntio’n awr ar y llygredd awyr llai gweladwy a grëir gan y cerbyd modur, y diwydiannau ysgafnach megis argraffu a phaentio sy’n arwain at ollyngiadau toddyddion, gorsafoedd petrol, yn ogystal â choelcerthi yng ngerddi pobl a materion yn ymwneud â radon.
Cliciwch ar y dogfennau isod am ddisgrifiad byr o'r gwaith a wnawn ym mhob un o'r meysydd.


Rhoi adborth ar y tudalen hon