| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Glanhau Adeiladau
Glanhau Adeiladau

Beth ydym ni’n ei wneud?

  • Yr holl lanhau dyddiol.

  • Glanhau achlysurol.

  • Glanhau a chynnal a chadw arbenigol (gweler y ffotograffau).

  • Glanhau ar gyfer achlysuron/digwyddiadau arbennig.

  • Glanhau mewn argyfwng.

Lle rydym ni’n ei lanhau?

  • Adeiladau dinesig.

  • Ysgolion uwchradd ac ysgolion cynradd.

  • Canolfannau hamdden.

  • Llyfrgelloedd.

  • Atyniadau ymwelwyr proffil uchel e.e. Yr Hen Garchar, Rhuthun; Y Capel, Llangollen.

Pa mor hyfforddedig yw ein staff?

Rydym yn sicrhau bod ein cyflogeion yn derbyn hyfforddiant cynhwysfawr, yn cwmpasu gweithdrefnau glanhau, offer glanhau ac iechyd a diogelwch. Rydym yn y broses o hyfforddi ein holl gyflogeion i fodloni safonau’r British Institute of Cleaning Science (BICSc).

Sut fath o offer sydd gennym?

Mae gennym amrediad eang o offer ac rydym yn buddsoddi’n gyson mewn offer mwy modern a dyfeisiadau newydd arloesol (gweler y ffotograffau). Mae ein Goruchwylwyr Ardal yn defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol arolygu ansawdd i fonitro’r safleoedd rydym yn eu glanhau.

Pa safonau ansawdd rydym ni’n eu cyrraedd?

Mae gennym statws sicrwydd ansawdd i safon BS EN ISO 9001:2000.

A ydym yn aelod o unrhyw gyrff proffesiynol?

Rydym yn aelod o’r British Institute of Cleaning Science (BISc).

Pa wobrau a enillwyd?

Yn y gwobrau 'Association of Public Service Excellence (APSE)', 2006, roeddem ni nid yn unig y Tim Gwasanaethau Glanhau gorau ond hefyd y tim Gwasanaethau Gorau hefyd !

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0