Mae mynwentydd Cyngor Sir Ddinbych yn cynnwys:
- Coed Bell, Ffordd Gronant Uchaf, Prestatyn.
- Mynwent Fron Bache, Ffordd y Ficerdy, Llangollen.
- Mynwent Llanrhydd, Llanrhydd, Rhuthun.
- Mynwent Maeshyfryd, Ffordd Dyserth, Y Rhyl.
- Y Fynwent Newydd, Ffordd Newydd, Rhuddlan.
- Mynwent y Llwyn, Ffordd Mount, Llanelwy.
- Mynwent Ffordd Ystrad, Ffordd Ystrad, Dinbych.
Hefyd mae mynwent sy’n llawn wedi ei lleoli yn Ffordd Morley, Y Rhyl.
Mynwentydd Traddodiadol
Cyfeirir at y mynwentydd traddodiadol fel mynwentydd lawnt. Dim ond cofebion ar ffurf carreg fedd, a ffiol wedi ei gosod arni os dymunir, sy'n cael eu caniatáu yn y rhain.
Claddu Mewn Coetir
Mae mannau claddu mewn coetir ym Mynwent Coed Bell, Prestatyn (ar fryncyn uwchben y fynwent bresennol gyda golygfeydd dros Fôr Iwerddon / Aber Afon Dyfrdwy) ac ym Mynwent y Llwyn, Llanelwy. Yn 2004, enillodd Coed Bell glod gan y Ganolfan Marwolaeth Naturiol am fod y fynwent naturiol orau yng Nghymru.
Mae’r safleoedd hyn yn darparu dewis arall, naturiol, yn hytrach na’r fynwent draddodiadol. Mae coed brodol, planhighion blodau gwyllt a llwyni yn cael eu plannu ar draws y llecyn. Yna bydd yn datblygu ac yn sefydlu ei hun yn amgylchedd coetir.
Ni ddylai’r rhai sydd eisiau bedd twt a thaclus gyda charreg fedd draddodiadol ystyried claddu mewn coetir. Ystyriwch yn ofalus a fyddai hynny’n briodol ar gyfer eich ymadawedig, cyn penderfynu ar y dewis yma.
Rheolau Mynwentydd
Mae’r Awdurdod wedi cynhyrchu set o Reolau Mynwentydd, sy’n berthnasol ymhob un o’i fynwentydd. Gellir gweld y rheolau yn y ddogfen atodol. Yn ychwanegol, ceir crynodeb o’r Rheolau ym mhob mynwent.Cofebion Carreg Fedd
Dim ond seiri maen coffa cofrestredig gyda BRAMM sy’n cael caniatâd i weithio yn mynwentydd yr Awdurdod. Rhaid gosod pob cofeb yn unol â Safon Prydeinig 8415. Mae’r Awdurdod wedi cynhyrchu set o Reolau Coff, ac maent i’w gweld yn y ddogfen isod.
Mae gan yr Awdurdod ddyletswydd gofal i sicrhau diogelwch aelodau’r cyhoedd sy’n ymweld â’i fynwentydd. Caiff pob cofeb a brynwyd gan deuluoedd ym mynwentydd yr Awdurdod eu harchwilio’n rheolaidd. Pan nodir cofeb sy’n rhydd rhoddir hysbysiad diogelwch wrth ei hochr a, lle bo hynny’n bosib, fe gysylltir â’r teulu i’w hysbysu bod angen rhoi sylw i’r gofeb. Os ystyrir bod cofeb yn anniogel fe’i gwneir yn ddiogel yn y ffordd sy’n fwyaf priodol ac fe hysbysir y teulu, lle bo hynny’n bosib, o gamau’r Awdurdod.
Cofebion Eraill
Gellir claddu neu wasgaru gweddillion wedi’u llosgi. Gellir gosod plac coffa mewn gwely rhosod neu ar wal. Gellir trefnu placiau ar feinciau coffa ond mae’n rhaid eu prynu drwy’r Swyddog Mynwentydd (nid yw prynu meinciau yn bosibl). Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn ceisio caniatáu eich ceisiadau os yn bosibl. Rhaid gofyn am ganiatâd o flaen llaw. Cysylltwch gyda'r Swyddog Mynwentydd drwy gyfrwng gwasanaethau.amgylcheddol@sirddinbych.gov.uk neu 01824 712106 am ragor o wybodaeth. Ceir ffurflen gais yn yr atodiad isod.
Ffioedd Mynwentydd
Mae ffioedd mynwentydd wedi’u cymeradwyo gan Gyngor Sir Ddinbych ac yn cael eu hadolygu’n flynyddol. Mae ffioedd Mynwentydd wedi’u newid yn sylfaenol, ac erbyn hyn gwahenir y ffi am yr Hawl Claddu Unigryw. Mae’r ffioedd hefyd yn adlewyrchu’r gost o baratoi / cloddio’r bedd i wahanol ddyfnder er mwyn cydymffurfio â dymuniadau’r rhai mewn profedigaeth. Gweler y ddogfen isod i gael rhestr o’r ffioedd diweddaraf.
Y person a enwir fel yr un sy’n dal yr Hawliau Claddu Unigryw yw’r unig berson sy’n gallu caniatáu claddu yn y bedd hwnnw. Rhaid ysgrifennu at ein hadran gyfreithiol i drosglwyddo'r hawliau i berson arall a enwir. Mae Hawl Unigryw wedi’i bennu am 50 mlynedd. Ar ddiwedd 50 mlynedd bydd Deilydd yr Hawl Unigryw yn gorfod ail ymgeisio am estyniad, os dymunant.


