Roedd cynllun CCTV Canol Tref Cyngor Sir Ddinbych dros ardal y Rhyl i ddechrau ond dros y blynyddoedd mae wedi ymestyn i gynnwys Prestatyn a lleoliadau strategol eraill ac erbyn hyn mae 73 camera ar gael sy'n cael eu monitro 24 awr y dydd, 7 dydd yr wythnos.
Mae'r cynllun yn cynnwys set o offer a threfniadau i ganfod gweithgaredd troseddol a chasglu lluniau i gynorthwyo asiantau erlyn a thrwy hynny leihau trosedd a lleihau ofni trosedd.
Trwy weithio mewn Partneriaeth hefo Heddlu Gogledd Cymru a chael cyswllt uniongyrchol hefo eu stafell reoli gellir rhoi adroddiad am drosedd ar unwaith gan gynyddu'r tebygolrwydd o gael eu dal. Hefyd trwy gael cyswllt hefo cynllun Radio Canol Tref gellir cael adroddiad am drosedd pellach a gellir monitro hefo camera at y dyfodol.
Os ydych yn dyst i drosedd neu wedi dioddef trosedd rhowch wybod i'r Heddlu.
Os byddwch yn dyst i drosedd neu'n ddioddefwr trosedd:,
Mewn Argyfwng ffoniwch 999
Ddim yn Argyfwng ffoniwch 101
neu gallwch roi gwybodaeth gyfrinachol am unrhyw drosedd i Crime Stoppers 0800 555 111


